Llwybrau Anodd Llafurus
Os ydych eisiau cerdded un o’r chwe llwybr i gopa’r Wyddfa neu gerdded i gopa Cader Idris yn ne Eryri, ar ddiwrnod clir, ni allwch guro'r golygfeydd panoramig a welir o'r copaon hyn!
Mae’r llwybrau hyn yn gallu bod yn heriol mewn mannau. Gall y tirwedd mynyddig fod yn sialens gyda llethrau diffwys, llwybrau creigiog a’r angen am ddringo mewn rhai mannau. Rhaid cymryd gofal eithriadol wrth gerdded y llwybrau yma yn ystod tywydd gaeafol gan fod cyflwr y llwybr dan droed yn gallu bod yn beryglus iawn. Ni ddylai cerddwyr dibrofiad ymgeisio’r llwybrau yn ystod tywydd o’r fath. Dylai cerddwyr fod yn wyliadwrus o sgri rydd a llethrau. Cofiwch wisgo dillad ac esgidiau addas cyn mynd allan ar y mynydd gan edrych ar ragolygon y tywydd cyn cychwyn eich taith. Cyn mentro allan ar y mynyddoedd, darllenwch ein Cyngor ar Ddiogelwch ar y Mynydd.
Llwybr Llanberis, Yr Wyddfa - Llwybr Anodd Llafurus
Llwybr Llanberis yw’r llwybr hiraf a’r mwyaf graddol o’r chwe prif lwybr i gopa’r Wyddfa, sy’n cynnig golygfeydd arbennig o Gwm Brwynog, Llanberis a thraw dros y Fenai am Ynys Môn.
Pellter: 9 milltir - 14.5Km (yno ac yn ôl)
« mwy o fanylionLlwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa - Llwybr Anodd Llafurus
Hen drac Gwaith Copr Britannia ar yr Wyddfa yw Llwybr y Mwynwyr - ond nid dyma’r ffordd a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i gyrraedd y mwynglawdd.
Pellter: 8 milltir - 13Km (yno ac yn ôl)
« mwy o fanylionLlwybr PYG, Yr Wyddfa - Llwybr Anodd Llafurus
Dyma’r llwybr mwyaf garw a heriol o’r chwe llwybr i gopa’r Wyddfa sy’n arwain ar hyd gwaelodion Crib Goch. Mae’r daith i fyny Crib Goch ac ar hyd y grib yn hynod o beryglus ac ni ddylai cerddwyr dibrofiad fentro arno.
Pellter: 7 milltir - 11 Km (yno ac yn ôl)
« mwy o fanylionLlwybr Watkin, Yr Wyddfa - Llwybr Anodd Llafurus
Enwyd y llwybr hwn ar ôl Syr Edward Watkin, Aelod Seneddol Rhyddfrydol a datblygwr rheilffyrdd. Wedi iddo ymddeol, aeth i fyw mewn ‘chalet’ yng Nghwm Llan ar odre’r Wyddfa.
Pellter: 8 milltir - 13Km (yno ac yn ôl)
« mwy o fanylionLlwybr Rhyd Ddu, Yr Wyddfa - Llwybr Anodd Llafurus
Y llwybr hwn i fyny’r Wyddfa yw’r tawelaf o’r chwe prif lwybr i’r copa, a’r un sydd â’r golygfeydd mynyddig mwyaf godidog, yn enwedig i gyfeiriad Moel Hebog a bryniau Nantlle.
Pellter: 7.5 milltir - 12Km (yno ac yn ôl)
« mwy o fanylionLlwybr Cwellyn, Yr Wyddfa - Llwybr Anodd Llafurus
Mae’n debyg mai’r llwybr hwn i fyny’r Wyddfa yw’r cynharaf o’r chwe prif lwybr i’r copa. Cyn i’r ffordd trwy Fwlch Llanberis gael ei hadeiladu arferai dynion gario mwyn copr o Waith Copr Britannia ar yr Wyddfa i fyny ochr ddwyreiniol y mynydd i Fwlch Glas.
Pellter: 8 milltir - 13Km (yno ac yn ôl)
« mwy o fanylionLlwybr Pilin Pwn, Tŷ Nant, Cader Idris - Llwybr Anodd Llafurus
Llwybr Pilin Pwn, Tŷ Nant yw’r prif lwybr i ben Cader Idris o ochr Dolgellau. Mae’r llwybr yn un cymharol ddiogel, sydd hefyd yn cynnig y golygfeydd mwyaf gwerth chweil.
Pellter: 6 milltir - 10Km (yno ac yn ôl)
« mwy o fanylionLlwybr Minffordd, Cader Idris - Llwybr Anodd Llafurus
Mae’n debyg mai hwn yw’r llwybr byrraf i ben Cader Idris - tua thair milltir; er mai hwn yw’r esgyniad mwyaf (2,850tr/869m).
Pellter: 6 milltir - 10Km (yno ac yn ôl)
« mwy o fanylionLlwybr Llanfihangel y Pennant, Cader Idris - Llwybr Anodd Llafurus
Dyma’r llwybr hawsaf i ben Cader Idris, ond dyma’r hiraf hefyd - dros bum milltir. Mae'r llwybr yn cyrraedd Cader Idris o gyfeiriad Dyffryn Dysynni cyn ymuno a llwybr Piliwn Pwn ar ben Rhiw Gwredydd.
Pellter: 10 milltir - 16Km (yno ac yn ôl)
« mwy o fanylionCrimpiau, Capel Curig - Llwybr Anodd Llafurus
Eisiau crwydro ucheldiroedd Eryri ond ddim eisiau mentro i fyny’r copaon uchaf? Beth am gerdded y daith gylch hon i gopa’r Crimpiau yn ardal Capel Curig yng ngogledd y Parc Cenedlaethol? O’r llecyn braf a thawel yma cewch fwynhau golygfeydd godidog o Ddyffryn Mymbyr a phedol yr Wyddfa, Dyffryn Ogwen a Llyn Crafnant.
Pellter: 3.5 milltir - 6km (taith gylch)
« mwy o fanylionCefnen Waun-oer - Llwybr Anodd Llafurus
Mae Llwybr Cefnen Waun-oer yn dringo o bentref Dinas Mawddwy dros fynyddoedd moel Maesglase, Craig Portas, Cribin Fawr ac Waun-oer ac yna i lawr llethrau Mynydd Ceiswyn i Fwlch Llyn Bach, Tal-y-Llyn.
Pellter: 9 milltir - 14km
« mwy o fanylionHeader image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)