Gwybodaeth Ddefnyddiol
Cynhwysedd Cymdeithasol
Mae nifer o wahanol resymau pam fod pobl yn wynebu rhwystrau sy’n ei gwneud yn anodd iddynt fwynhau'r hyn sydd gan Eryri i’w gynnig.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ymroddedig i geisio lleihau'r rhwystrau hyn.
Yn 2006 cyhoeddodd ei Gynllun Cydraddoldeb Anabledd cyntaf. Yn 2012, mewn ymateb i Ddyletswyddau ychwanegol roddwyd gan Lywodraeth Cymru, cyhoeddodd yr Awdurdod ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol a Strategaeth Tlodi Plant.
Rhwydwaith Ffonau Symudol
Er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod ble gellir defnyddio eich ffonau symudol o fewn ffiniau'r Parc, rydym wedi cynnwys dolenni i'r prif ddarparwyr rhwydweithi yma:
Three - www.three.co.uk
Vodafone - www.vodafone.co.uk
02 - www.o2.co.uk
EE - www.ee.co.uk
Ffyrdd Trafnidiaeth Cyhoeddus
Mae nifer o ffyrdd trafnidiaeth cyhoeddus yn addas ar gyfer teithwyr anabl o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Am fwy o wybodaeth am ffyrdd trafnidiaeth cyhoeddus yn Nghymru, ewch i gwefan Traveline Cymru a chlicio ar 'Teithio gydag anabledd'.
Cludiant Cymunedol
Mae nifer o grwpiau yn cynnig cludiant cymunedol yn Eryri, gan gynnwys:
O Ddrws i Ddrws - 01758 721 777
CYMROD - 01758 614 311
The Red Cross - 01248 351 103
Barbara Bus Gwynedd - 01766 522 756
CIL De Gwynedd - 01766 514 249
Conwy Community Transport - 01492 585068 glyncct@gmail.com
Gallwch hygyrchu y wefan cludiant cymunedol er mwyn canfod mwy o ddarparwyr.
Gwybodaeth Gwyliau i'r Anabl
MAe'r wefan yma wedi ei theilwro at ymwelwyr sydd a phob math o anableddau ac anhawsterau symudedd (nid defnyddwyr cadeiriau olwyn yn unig) er mwyn rhoi gwybodaeth briodol ar lety, atyniadau, gweithgareddau a llwybrau er mwyn gallu dewis gwyliau addas ar gyfer anghenion unigolion. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ei ganfod yn ddefnyddiol er mwyn cynllunio gwyliau neu hyd yn oed ddiwrnod allan!
Gwefan - www.disabledholidayinfo.org.uk
Gwybodaeth Bellach
Os ydych angen mwy o wybodaeth neu os hoffech wneud unrhyw sylw ar adran 'Eryri i bawb' cysylltwch â ni:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol,
Penrhyndeudraeth,
Gwynedd. LL48 6LF
Ffôn: 01766 770 274
Ebost: parc@eryri.llyw.cymru
Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)