Cyngor ar Drogod / Clefyd Lyme
Be tick aware
Parasit sy'n bwydo ar waed anifeiliaid a phobl yw trogen. Pan fyddwch allan yng nghefn gwlad rydych mewn peryg o gael eich brathu gan drogen. Gall trogod gario amryw o glefydau ac felly mae'n bwysig eich bod yn gwybod beth i'w wneud os cewch eich brathu, neu sut i osgoi hynny yn y lle cyntaf. Gallwch leihau'r risg o gael eich brathu drwy gamau syml megis torchi eich trwsus i mewn i'ch sanau, gwisgo dillad sydd wedi ei wneud o ddeunydd llithrig megis lycra, a chadw i ganol y llwybrau. Am fwy o fanylion os cewch eich brathu ewch i wefan yr NHS.
Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)