Dringo a Rhaffau Uchel
Mae Eryri yn denu dringwyr o bedwar ban byd i fwynhau'r amrywiaeth o gyfleoedd dringo sydd ar gael yma! Yn wir, bu i Syr Edmund Hillary a'i dîm hyfforddi ar fynyddoedd geirwon Eryri fel paratoad ar gyfer eu taith i goncro Everest!
Mae Plas y Brenin - Canolfan Fynydd Genedlaethol yng Nghapel Curig yn cynnig cyrsiau dringo awyr agored a dan do, ac mae'r ganolfan Beacon Climbing wedi ail-leoli i gyfleuster dringo dan do newydd sbon ar Stad Cibyn yng Nghaernarfon. Ar gyfer y rhai hynny sydd am fentro i'r eithaf, heriwch eich hunain ar un o'r cyrsiau rhaffau uchel yn Eryri.

Canolfan Ddringo Beacon, Caernarfon (© APCE)

Gaia Adventures
Mae Gaia Adventures yn cynnig anturiaethau diogel a hwyliog ar gyfer unigolion, grwpiau, teuluoedd a thimau corfforaethol.
Gall fod eich profiad cyntaf o gerdded yn y mynyddoedd, neu efallai eich bod am wella eich sgiliau arwain wrth ddringo creigiau, gadewch i ni roi'r profiad perffaith i chi.
Gadewch i ni ddangos cyfrinachau Gogledd Cymru i chi, a chael profiad bythgofiadwy!
Sut i gyrraedd yno:
-
Cyfleusterau: Mae cerdded mynydd, cyfeiriannu, sgramblo, dringo creigiau, gwersylla gwyllt, sgramblo ceunentydd ac arforgampau i gyd ar gael, y gamp yw dewis pa un!
Cyfeiriad: Gaia Adventures, Y Fricsan, Cwm-y-Glo, Caernarfon, Gwynedd. LL55 4EE
Ffôn: Sam Farnsworth 07814 412 439 / Will Nicholls 07761 036 715
Ebost: info@gaiaadventures.co.uk
Gwefan: www.gaiaadventures.co.uk

Plas y Brenin
Plas y Brenin yw'r Ganolfan Fynydd Genedlaethol sydd wedi ei lleoli yn Nyffryn Mymbyr yng nghalon y Parc Cenedlaethol. Bwriad y Ganolfan yw cynnig hyfforddiant o’r radd flaenaf ar fynydda, dringo a chanŵio. Mae’r cyrsiau’n amrywio o gyrsiau gwobrwyo corff llywodraethol i wyliau aml-weithgaredd, o dechnegau uwch ar gyfer dringo alpaidd i gyrsiau achub a diogelwch achrededig.
Sut i gyrraedd yno:
Mae Plas y Brenin ar yr A4086 o Gapel Curig i Lanberis, ac lai na chwarter milltir i’r de-orllewin o ganol pentref Capel Curig.
Cyfleusterau: Wal ddringo 13m a wal hyfforddiant, Pwll hyfforddi canŵio dan do (6m x 3m), Llethr sgio artiffisial 60m, Ystafell ffitrwydd, Lle aros gyda hyd at 65 gwely
Cyfeiriad: Plas y Brenin, Canolfan Fynydd Genedlaethol, Capel Curig, Conwy. LL24 0ET
Ffôn: 01690 720 214
Ebost: info@pyb.co.uk
Gwefan: www.pyb.co.uk

Beacon Climbing Centre
Mae Beacon Climbing Centre bellach wedi ail-leoli i gyfleuster modern newydd anferthol, wedi'i leoli ar Stad Cibyn yng Nghaernarfon. Mae'r ganolfan newydd yn cynnig y cyfleusterau dringo dan do gorau yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys y CrazyClimb cyntaf yn y byd a chaffi rhagorol gyda golygfeydd gwych dros y mannau dringo.
Sut i gyrraedd yno:
Mae Beacon Climbing Centre wedi'i leoli ar Stad Cibyn yng Nghaernarfon ar ffordd fawr yr A4086 i gyfeiriad Llanberis.
Cyfleusterau: Sesiynau blasu, Cyrsiau dan do, Cyrsiau awyr agored, Cyrsiau hyfforddwyr
Cyfeiriad: Beacon Climbing Centre, Cibyn Estate, Caernarfon, Gwynedd. LL55 2BD
Ffôn: 0845 450 8222 / 0345 450 8222
Ebost: info@beaconclimbing.com
Gwefan: www.beaconclimbing.com
Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)