Cais am Hanes Cynllunio
Mae'r Awdurdod yn darparu gwasanaeth chwiliadau personnol. Bydd y gwasanaeth yn datgelu unrhyw o’r canlynol:
- Caniatadau Cynllunio
- Caniatadau Adeilad Rhestredig
- Caniatadau Ardal Gadwraeth
- Tystysgrif Defnydd Cyfreithlon (Defnydd Presennol/Arfaethedig)
Nodwch, bydd y wybodaeth a ddarperir wedi cael eu casglu o gofnodion a gedwir gan yr Awdurdod hwn ers 1 Awst 1977 ac yn berthnasol i'r uchod yn unig. Mae'n rhaid i'r ymchwilydd fodloni ei hunan ynghylch cywirdeb unrhyw gofnodion a ddatgelir.
Dylwch gynnwys Cynllun Lleoliad y Safle yn seiliedig ar Gynllun Arolwg Ordnans/Cofrestr Tir Dylai hwn ddangos safle, pob eiddo cyfagos a pherthynas y safle â'r briffordd gyhoeddus (byddai map 1:2500 yn ddefnyddiol). Dylid amlinellu’r safle mewn coch. Er enghraifft:
Y ffî am y gwasanaeth hwn yw £20. Dylai pob siec fod yn daladwy i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Rydym yn derbyn taliadau electroneg hefyd.