Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Eryri diwygiedig
Cafodd y Cynllun Datblygu Lleol Eryri diwygiedig (2016-2031) ei fabwysiadu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar 6ed Chwefror, 2019.
Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau Cynllunio. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Eryri diwygiedig (2016-2031) yn disodli Cynllun Datblygu Lleol Eryri (2007-2022).
Mae Cynllun Datblygu Lleol Eryri diwygiedig yn cynnwys Datganiad Ysgrifenedig, Mapiau Cynigion a Manwl ac ar y cyd â’r Polisi Cynllunio Cenedlaethol bydd yn rhoi arweiniad i benderfyniadau ar geisiadau cynllunio ar yr holl ddatblygiadau a chynllunio defnydd tir yn y Parc Cenedlaethol yn y dyfodol.
Betws y Coed (© Kevin Richardson)
Cynllun Datblygu Lleol 2016-2031 Mabwysiedig
Mae'r fersiwn electroneg derfynol o'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 2016-2031 a fabwysiadwyd ar gael i'w weld o fewn y dolenni canlynol. Am wybodaeth bellach ynghylch y newidiadau a gymeradwywyd gan yr Arolygydd, gweler Adroddiad yr Arolygydd a'r Atodlenni.
Cynllun Datblygu Lleol Eryri 2016-2031 - Datganiad Ysgrifenedig
Cynllun Datblygu Lleol Eryri 2016-2031 Mapiau o'r Cynigion 1-10
Cynllun Datblygu Lleol Eryri 2016-2031 Mapiau o'r Cynigion 11-20
Bydd copïau caled o'r Cynllun Datblygu Lleol 2016-2031 mabwysiedig, gan gynnwys ei Fapiau Cynigion a Manwl ar gael i’w harchwilio’n rhad ac am ddim yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, mewn llyfrgelloedd cyhoeddus yn Abermaw, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Dolgellau, Penygroes, Tywyn, Porthmadog, Y Bala, Cerrigydrudion, Llanrwst, Llanfairfechan, Penmaenmawr, Conwy ac yng Nghanolfannau Croeso’r Awdurdod ym Metws y Coed, Aberdyfi a Beddgelert yn ystod oriau agor arferol.
Arfarniad o Gynaliadwyedd, Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Mae Arfarniad o Gynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol i gyd-fynd â’r Cynllun, ynghyd â’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.
Adroddiad Ymgynghori
Mae ystod eang o randdeiliaid wedi helpu i baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, ac mae eu cyfraniad parhaus yn hollbwysig yn y broses o weithredu’r Cynllun. Mae rhagor o wybodaeth wedi'i chynnwys yn yr Adroddiad Ymgynghori a'r Atodiad.
Canllawiau Cynllunio Atodol
Mae'r Awdurdod bellach yn paratoi Canllawiau Cynllunio Atodol newydd ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon ar gael ar wefan yr Awdurdod yma.