Coedwigaeth
Mae oddeutu 36,400 hectar o Barc Cenedlaethol Eryri yn goetir. Mae hyn yn cynrychioli tua 17% o gyfanswm arwynebedd y Parc gyda choedwigoedd o bob math - llydanddail, conwydd a chymysg.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn berchen ar nifer o goedlannau, a reolir hyd at y safon amgylcheddol uchaf posibl drwy'r Adain Goedwigaeth, gan ddarparu adnoddau ar gyfer mwynhad ac addysg.
Nod yr Adain Goedwigaeth yw gwarchod, gwella ac ehangu coetiroedd collddail cynhenid a'u bioamrywiaeth trwy ddarparu cyngor, cymorth a grantiau. Maent hefyd yn cysylltu â'r Comisiwn Coedwigaeth a'r diwydiant coedwigaeth ynghylch torri coed, rhaglenni ail-stocio, a gwella tirluniau coedwig.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Gwasanaeth Cadwraeth, Coed ac Amaeth
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF
Ffôn: 01766 770274
Ffacs: 01766 771211
Ebost:parc@eryri.llyw.cymru