Mae Cader Idris angen eich help!
Mae Cyngor Mynydda Prydain wedi lansio ei ail ymgyrch ‘Adfer ein Mynyddoedd’, sy’n ymgyrchu i godi arian er mwyn taclo’r broblem o erydiad ar fryniau a mynyddoedd ein Parciau Cenedlaethol.
Mae Cader Idris yn ne Parc Cenedlaethol Eryri yn un o 13 ardal prosiect fydd yn elwa o arian a godir trwy’r ymgyrch, gyda rhannau o lwybr Mynydd Moel, sef ail gopa uchaf Cader Idris, yn cael eu datblygu.
Dros y blynyddoedd diweddar mae’r nifer o gerddwyr sy’n dilyn y llwybr amgen hwn i lawr o’r copa wedi achosi i graith erydiad hyll ddatblygu. Bydd arian a godir trwy’r ymgyrch yn galluogi Awdurdod y Parc i ymgymryd â’r gwaith o adeiladu llwybr carreg cadarn fydd yn gwrthsefyll pwysau’r defnydd cynyddol a wneir o’r rhan yma o’r mynydd.
Os ydych chi eisiau cyfrannu tuag at y prosiect gwerth chweil yma, dilynwch y ddolen isod i wefan Crowdfunder.co.uk
https://crowdfunder.co.uk/help-mend-snowdonia
Diolch!
Rhan o lwybr Mynydd Moel sydd wedi erydu'n ddrwg
Mae llwybrau carreg yn hynod o wydn. Dyma’r gwahaniaeth y gall eich arian chi ei wneud…
Cyn gwaith gwella llwybr
Ar ôl gwaith gwella llwybr