Cyfrannu
Mewn ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd ynghylch system roddion tuag at waith Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mae rhaglen beilot wedi'i sefydlu.
Defnyddir unrhyw roddion a dderbynnir trwy'r dudalen hon i hyrwyddo gwaith yr Awdurdod â'i bwrpasau a'i ddyletswydd statudol, sef:
Ein Pwrpasau Statudol
- gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol
- hyrwyddo cyfleoedd i'r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol
Ein Dyletswydd Statudol
- meithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau o fewn y Parc Cenedlaethol
Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, bydd adroddiad yn cael ei baratoi i ddangos swm y rhoddion a godwyd trwy gyfrwng y dudalen hon a sut y caiff ei fuddsoddi yn ôl i mewn i’r gwaith o ofalu am Eryri.
Disgwylir y cyntaf o'r adroddiadau hyn ym mis Ebrill 2021.
Gan mai rhaglen beilot yw hon, disgwyliwch weld mwy o fanylion ac enghreifftiau o brosiectau yn cael eu hariannu wrth i ni esblygu a dysgu. Byddwn yn ailasesu sut mae hyn yn gweithio bob blwyddyn er mwyn gweld sut y gallwn wella.
Diolch yn fawr!
Cyfrannu i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Bydd pob ceiniog o'ch cyfraniad yn mynd tuag at warchod a gwella tirweddau, bywyd gwyllt a chymunedau lleol Parc Cenedlaethol Eryri
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'n Rheolwr Partneriaethau: