Goleuo - Canllawiau Sylfaenol
Nid yw byw neu weithio mewn Gwarchodfa Awyr Dywyll yn golygu fod angen diffodd pob golau! Yn hytrach, mae’n ein hannog i ni ddefnyddio golau sy’n fwy amgylcheddol gyfeillgar, sydd â gwell ansawdd, sy’n fwy effeithiol wrth daflu golau lle mae ei angen, ond hefyd yn lleihau llygredd golau ac allyriadau carbon a hefyd yn well ar gyfer bywyd gwyllt y nos.
Beth yw llygredd golau?
Ceir tri math o lygredd golau
- Awyr yn tywynnu, sy’n goleuo awyr y nos ac yn amharu ar ein golygfa o’r sêr
- Llacharedd – sy’n gallu ein dallu mewn man tywyll
- Golau ymwthiol – golau’n gwasgaru y tu hwnt i’r ardal sydd i’w oleuo.
Mae pob un o’r rhain yn gallu
- Amharu’n ddiangen ar ein bywydau
- Bod yn wastraff arian
- Gwastraffu trydan
- Cyfrannu at gynhyrchu nwyon tŷ gwydr,
Sut fedrai helpu?
Mae angen goleuadau allanol arnom am nifer o resymau, gan gynnwys at ddibenion diogelwch a busnes. Mae’r IDA (International Dark-Sky Association) yn cydnabod hyn ond yn ein hannog i fod yn ddoeth wrth ddefnyddio goleuadau allanol.
Er mwyn lleihau effeithiau niweidiol llygredd golau,
- Dylai golau fod ynghynn ond pan fo’i angen
- Dylid ond goleuo ardal pan fo’i angen
- Ni ddylai’r golau fod yn fwy llachar na’r hyn sy’n angenrheidiol
- Mae angen lleihau allyriadau golau glas
- Dylid defnyddio goleuadau sydd wedi eu hamddiffyn yn llawn ac sy’n wynebu’r llawr.
Y peth pwysicaf i’w gofio:
Ystyriwch cyn goleuo:
Ydy hwn yn angenrheidiol?
Os felly, ydy o’n rhy lachar? Ydach chi’n amharu ar eraill?
Mae’n swyddogion ar gael i roi cyngor i ddatblygwyr ar y math o oleuadau allanol sy’n addas.
Mae’r enghreifftiau isod yn rhoi arweiniad syml i’r math o oleuadau sy’n annerbyniol a’r math o oleuadau sy’n lleihau llygredd, sy’n llai amlwg ac yn llai disglair.