Geirfa
Mae’r Gymraeg y gyforiog o enwau ar gyfer y sêr, y cytserau, a galaethau. Dyma rai enwau y daethom ni ar eu traws – wyddoch chi am fwy?
Galaethau
Milky Way
Y Llwybr Llaethog
Bwa’r Gwynt
Heol Y Gwynt
Llwybr Y Gwynt
Y Ffordd Laethog
Ffordd Wen
Y Ffordd Laethwen
Caer Gwydion - Dewin oedd Gwydion ac mae’n un o brif gymeriadau pedwaredd gainc y Mabinogi.
Sarn Badrig - Sarn Badrig yw’r enw ar greigres o raean bras sy’n rhedeg gyfochrog â Phen Llŷn am rhyw 20 km o dan y môr o Fochras ger Harlech. Yn ôl y chwedl, Sarn Badrig oedd un o’r morgloddiau a arferai amddiffyn Cantre’r Gwaelod.
Cytser
Corona Borealis - Arianrhod. Ymddengys Arianrhod fel cymeriad ym mhedwaredd gainc y Mabinogi. Mae’n ferch i Dôn, yn chwaer i Gwydion ac yn fam i Lleu Llaw Gyffes. Caer Arianrhod hefyd yw’r enw ar ddarn o dir nid nepell o Landwrog lle mae creigiau isel a dŵr bas i’w ganfod.
Cassiopeia -
Llys Dôn - Dôn yw enw Cymraeg y dduwies Geltaidd Danu. Mae’r enw’n ymddangos ym mhedwaredd cainc y Mabinogi fel mam Gwydion, Gilfaethwy ac Arianrhod. Ei brawd oedd Math fab Mathonwy.
Cadair Y Foneddiges
The Plough The Great Bear (Ursa Major) -
Yr Aradr
Yr Haeddel Fawr - Haeddel - dolen yr aradr
Y Sosban
Y Llong Foel
Llun Y Llong
Yr Arth Fawr
Jac A’i Wagen
Saith Seren Y Gogledd
Sêr Llong
Capricornus - Yr Afr
Pleiades - Y Pleiades
Cytser
Y Saith Seren Siriol
Y Tŵr Tewdws
Y Saith Chwaer
Maes Y Teiliwr
Y Sosban Fach
Taurus - Y Tarw
Orion - Orïon
Sirius - Siriws
(Seren) Y Ci
Seren Y Gweithiwr
Seren Y Gan
Leo - Y Llew
Gemini - Yr Efeilliaid
Cygnus - Yr Alarch
Pegasus - Pegasws
Ursa Minor -
Sosban Fach
Arth Fach
Arthen
Arcturus - Cytser Y Bugail
Seren
Polaris - Seren Y Pegwn
North Star -
Seren Y Gogledd
Seren Y Morwyr
Rhonell y Ci - Math o wair (crested dog’s tail), sy’n gallu tyfu mewn unrhyw fan.
Sêr
Orion’s Belt -
Llathen Fair
Y Groes Fendigaid
Y Tri Brenin
Llathen Teiliwr
Y Tair Carreg Filltir