Parc Cenedlaethol Eryri

Coed y Brenin Dolgellau

Llyn Mymbyr Eryri

Croeso i Eryri

Nodwch nad yw cynllun peilot rhagarchebu lleoedd parcio ym Mhen y Pass bellach yn weithredol. Gellid cael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Diweddariadau Meysydd Parcio.

Diweddariad Coronavirus: Oherwydd y sefyllfa bresennol gyda Covid-19 ac yn unol â chanllawiau’r llywodraeth rydym yn y broses o wneud addasiadau i’n gwasanaethau. Yn ystod yr amser anodd hwn ein blaenoriaeth yw iechyd ein staff a’n gwirfoddolwyr, a gofalu am y cymunedau a’r busnesau o fewn ac o amgylch y Parc Cenedlaethol.

Rhagor o wybodaeth

Mae Parc Cenedlaethol Eryri, sydd wedi ei leoli ar arfordir gorllewinol Prydain gan gwmpasu 823 milltir sgwâr o dir amrywiol, yn ardal fyw a gweithiol, ac yn gartref i 26,000 o bobl. Yn ogystal â bod y Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru, mae Eryri’n meddu ar y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr, a’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, ynghyd â chyfoeth o bentrefi prydferth fel Betws y Coed a Beddgelert. Mae Eryri yn ardal llawn diwylliant a hanes lleol, ac mae mwy na hanner ei phoblogaeth yn siarad Cymraeg.

Mae Eryri yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn i fwynhau ei golygfeydd godidog a’r wledd o weithgareddau awyr agored a gynigir yma. Nod Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal; hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig; a meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau.

Golygfa 360 Panorama o Gopa'r Wyddfa

Snowdon Summit 360 View

Tanysgrifiwch i Gylchlythyr Eryri

* gwybodaeth angenrheidiol

Mi fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparir ar y ffurflen yma i gysylltu â chi gyda diwedderiadau misol.

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy bwyso'r botwm tanysgrifio ar waelod unrhyw e-bost dderbyniwch gennym. Trwy glicio isod rydych yn caniatau i ni brosesu eich gwybodaeth yn gysylltiedig a'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy danysgrifio rydych yn cydnabod bydd eich gwybodaeth yn cael ei drosglwyddo i Mailchimp er mwyn ei brosesu. Dysgwch fwy am bolisi preifatrwydd Mailchimp yma.

Oherwydd y sefyllfa bresennol gyda Covid-19 ac yn unol â chanllawiau’r llywodraeth rydym yn addasu ein gwasanaethau. Yn ystod yr amser anodd hwn ein blaenoriaeth yw iechyd ein staff a’n gwirfoddolwyr, a gofalu am y cymunedau a’r busnesau o fewn ac o amgylch y Parc Cenedlaethol.

Mwy o wybodaeth »