Datganiadau i'r Wasg 2018
Y Loteri Genedlaethol #DiolchYnFawr
27 Tachwedd 2018
Ar yr 8fed o Ragfyr, rydym yn cynnig paned o de neu goffi am ddim i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n prynu tocyn i ymweld a ffermdy hanesyddol Yr Ysgwrn.
21 Tachwedd 2018
Bydd digwyddiad unigryw i nodi diwedd y Rhyfel Byd 1af a’r dyhead am heddwch yn cael ei berfformio yng Nghapel Moreia, Trawsfynydd ddydd Sul yma.
Cyfle i Dendro - Ail-Hysbyseb Oherwydd Mân Anghysondeb yn yr Hysbyseb Wreiddiol
9 Tachwedd 2018
ADEILADU YSGUBOR YSTLUMOD - HARLECH Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwahodd tendrau gan gontractwyr adeiladu cymwys a phrofiadol i adeiladu ysgubor ystlumod ar dir yng Ngwesty Dewi Sant, HARLECH, Gwynedd.
26 Hydref 2018
Wrth i ni baratoi i droi’r clociau’n ôl y penwythnos hwn gofynwn i gerddwyr gynllunio eu teithiau i gefn gwlad neu fynyddoedd Eryri’n ofalus dros y misoedd nesaf, gan gofio caniatau ar gyfer llai o olau dydd.
Datblygu sgiliau traddodiadol ar fferm Yr Ysgwrn
12 Hydref 2018
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn darparu sesiynau i ddysgu crefft sydd wedi bod yn rhan o dirlun Eryri ers canrifoedd.
Llwybr newydd ar lethrau uchaf yr Wyddfa
5 Hydref 2018
Diolch i arian a godwyd trwy ymgyrch cyllido torfol Adfer ein Mynyddoedd yn ôl yn 2016, mae cymal cyntaf y gwaith o adeiladu llwybr ar ran uchaf Llwybr Watkin i gopa’r Wyddfa wedi ei gwblhau.
Mae’r Lleuad yn Goch yn Yr Ysgwrn
28 Medi 2018
A hithau’n fis Gŵyl Hanes Cymru i Blant, mae’r Ysgwrn yn falch o gydweithio â’r Ŵyl a Chyngor Llyfrau Cymru i gynnig profiadau llenyddol tu allan i’r dosbarth i ddisgyblion ysgolion uwchradd Gwynedd.
10 Medi 2018
Diolch i ymgyrch cyllido torfol, Adfer ein Mynyddoedd: Miliwn i’w Godi, sy’n cael ei lansio heddiw, gobeithio y bydd Cader Idris gam yn agosach at elwa o waith datblygu llwybrau angenrheidiol.
Adfer Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
28 Awst 2018
Diolch i nawdd Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, yr hydref hwn fydd dechrau pennod newydd yn hanes coedwigoedd glaw Celtaidd Cymru sydd ar hyn o bryd mewn cyflwr cadwraethol anffafriol. Trwy ganolbwyntio ar waredu rhywogaethau planhigion estron a rheolaeth effeithiol y bwriad yw dod â’r coedwigoedd yn ôl i’w cyflwr ffrwythlon blaenorol.
Cardiau post a thaflen i ddathlu treflun arbennig Dolgellau
15 Awst 2018
Yr wythnos hon lansiwyd taflen a chyfres o gardiau post newydd sy’n dathlu treftadaeth arbennig treflun Dolgellau. Lluniwyd darluniadau trawiadol o adeiladau’r dref, sy’n ymddangos ar y cardiau ac yn y daflen, gan fyfyrwyr celf o Goleg Meirion Dwyfor.
Wythnos y Parciau Cenedlaethol 2018
20 Gorffennaf 2018
O deithiau cerdded i gerddoriaeth byw, mae rhywbeth i bawb yma yn Eryri yn ystod Wythnos y Parciau Cenedlaethol.
Agor arddangosfa o waith celf gan unigolion sy’n byw gyda dementia
17 Gorffennaf 2018
Heddiw, bydd arddangosfa o waith celf gan unigolion sy’n byw gyda dementia cynnar yn agor yn Ysbyty Alltwen, Tremadog. Mewn gweithdy pum diwrnod yn Yr Ysgwrn ym mis Mai, bu criw o bobl iau sy’n byw gyda’r cyflwr yn brysur yn creu diorama personol gyda’r artist Luned Rhys Parri.
16 Gorffennaf 2018
Ers Hydref y llynedd, y mae disgybl o Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth wedi bod yn cael y cyfle i gydweithio efo nifer o staff yr Awdurdod.
Cyfnod o dywydd sych a phoeth yn cynyddu’r perygl o dân yng nghefn gwlad
29 Mehefin 2018
Dros y dyddiau diwethaf mae ardal Eryri wedi bod ymhlith y poethaf yn y DU, gyda Phorthmadog ar gyrion y Parc yn torri record tymheredd uchaf y flwyddyn. Gyda’r tir erbyn hyn yn sych grimp mae swyddogion Awdurdod Parc Cenedlaethol yn apelio ar y cyhoedd i fod yn wyliadwrus rhag cynnau tân yng nghefn gwlad Eryri.
Prosiect Partneriaeth Tirwedd y Carneddau
28 Mehefin 2018
Sesiynau galw draw i ffermwyr - 3ydd,4ydd a 10fed o Orffennaf
Dyfodol Disglair i’r Afon Eden
18 Mehefin 2018
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi sicrhau gwell dyfodol i’r Afon Eden. Mae prosiect Afon Eden wedi derbyn cyllid trwy raglen Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 – 2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.
6 Mehefin 2018
Mae swyddogion APCE a pherchnogion tir lleol yn apelio’n daer ar yrwyr cerbydau 4 x 4 i beidio â chrwydro oddi ar lwybrau penodol wrth yrru ym Meirionnydd.
Gwaharddiad Beicio Mynydd Gwirfoddol
30 Mai 2018
Rydym yn gofyn i feicwyr mynydd barchu’r cytundeb gwirfoddol rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a grwpiau beicwyr mynydd amrywiol sy’n golygu cadw i ffwrdd o lwybrau Llanberis, Rhyd Ddu a Cwellyn rhwng 10.00 y.b a 5.00 y.h o Fai 1af hyd ddiwedd Medi.
1 Mai 2018
Dewch i brofi treftadaeth ddiwylliannol Eryri yng nghwmni Tomos Jones, Archaeolegydd Parc Cenedlaethol Eryri ar y 24ain o Fai!
26 Ebrill 2018
Yma yn ei arddangosfa gyntaf mae Rhodri yn cyferbynnu ei ddodrefn crefft-llaw gyda darnau wedi eu gweddnewid mewn ffyrdd gweledol annisgwyl.
26 Ebrill 2018
Wythnos ddiwethaf aeth Clwb Cerdded Eryri ar daith yng ngwynt a glaw mân Cwm Idwal.
Dirwy o fwy na £2,000 i gwmni am ddefnyddio ffenestri plastig.
24 Ebrill 2018
Mewn achos llys yng Nghaernarfon yr wythnos ddiwethaf dyfarnodd yr ynadon ddirwy a chostau o £2,171.60 yn erbyn cwmni Bluestar Estates (Birmingham) Ltd. Roedd y cwmni wedi methu cydymffurfio â rhybudd gorfodaeth yn ymwneud ag amod caniatâd cynllunio ar Gapel Tabernacl, Stryd Fawr, Harlech.
Gwaith Maes Archaeolegol Prifysgol Sheffield
20 Ebrill 2018
Mae Tomos Jones ein Archaeolegydd wedi bod yn cefnogi staff a myfyrywyr o Brifysgol Sheffield gyda'u gwaith maes yn nyffryn Dysynni.
27 Mawrth 2018
Gan fod y clociau wedi troi, y dyddiau’n ymestyn, a’r gwanwyn yn dechrau dangos ei liwiau, mae MynyddaDiogel yn annog pawb i wirio rhagolygon y tywydd cyn mentro allan i gerdded ar y mynyddoedd y Pasg hwn.
Gwobr Arbennig i Mr Gerald Williams
23 Mawrth 2018
Llongyfarchiadau mawr i Mr Gerald Williams, Yr Ysgwrn ar ennill Gwobr Arbennig y Prif Weinidog yng Ngwobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru, 2018!
Sicrhau Dyfodol Gwell i’r Wyddfa
19 Mawrth 2018
Wedi tair blynedd o drafodaethau ac ymgynghoriadau, mae cynllun arloesol sy’n amlinellu sut i ofalu am ddyfodol mynydd mwyaf eiconig Cymru, Cynllun Partneriaeth yr Wyddfa, yn gweld golau dydd heddiw.
Nodyn Atgoffa Diogelwch Mynydd
28 Chwefror 2018
Pa adeg gwell i atgoffa'r cyhoedd i gadw'n ddiogel ym mynyddoedd Eryri.
19 Chwefror 2018
Dewch i weld beth sydd gan Yr Ysgwrn i'w gynnig ym mis Mawrth.
2 Chwefror 2018
Heddiw rydym yn dathlu Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd
APCE yn Wynebu Her Ariannol unwaith eto
1 Chwefror 2018
Yn dilyn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri unwaith eto yn wynebu penderfyniadau anodd wrth fynd i’r afael ag ymateb i her ariannol.
Yr Ysgwrn - Gohirio Dyddiad Agor
1 Chwefror 2018
Mae’r Ysgwrn ar gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw angenrheidiol. Cysylltwch â ni am fanylion agor y safle.
National Obesity Awareness Week
12 Ionawr 2018
Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Gordewdra Genedlaethol, beth am ganfod 10 gweithgaredd i’w profi yma yn Eryri. Pam lai dynodi cwpwl o benwythnosau bob mis i fentro i’r awyr agored? Mi fyddai’n fuddiol i’ch iechyd a’ch lles tra’n gyfle i brofi golygfeydd trawiadol Eryri yr un pryd . . .