Gair Am Fforwm Eryri
Mae'r Fforwm yn gyfle i bawb sy'n ymwneud â llunio dyfodol Eryri i symbylu eu dull o weithio ar y cyd yn y rhanbarth a thu hwnt. Bydd y Fforwm yn gweithio gyda'i gilydd i sefydlu mecanweithiau ar y cyd ar gyfer datblygu, darparu a monitro amcanion a chamau gweithredu strategol o fewn Cynllun Partneriaeth y Parc Cenedlaethol ("y Cynllun").
Drwy'r pwrpas hwn bydd y Fforwm yn darparu ffordd newydd o weithio gyda phartneriaid perthnasol drwy gyflawni Dyletswyddau Adran 62 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.
Bydd y Fforwm hefyd yn sefydlu - ac yn flynyddol yn adolygu - aelodaeth o’r cyrff a gynrychiolir yn y Fforwm a bydd hyn yn cael ei gymeradwyo gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Wrth ddilyn y diben hwn bydd y Fforwm yn cyfrannu at gyflawni’r nodau cenedlaethol llesiant fel y nodir yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Aelodau Fforwm Eryri
Mae'r mydiadau canlynol yn aelodau o Fforwm Eryri:
- Cadw
- CLA Cymru
- Coed Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cymdeithas Eryri
- Cyngor Bwrdeistref Conwy
- Cyngor Gwynedd
- Eryri Bywiol
- Ffederasiwn busnesau bach Cymru
- FUW
- Grŵp Llandrillo Menai
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- NFU Cymru
- Pen Llŷn a'r Sarnau SAC
- Prifysgol Bangor
- RSPB
- Twristiaeth Gogledd Cymru
- Un Llais Cymru
- Y Bartneriaeth Awyr Agored
- Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
- Yr Ymddiredolaeth Genedlaethol