Fforymau Lleol
Yn sgîl y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, gofynnwyd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, fel 'Awdurdod Penodi' i sefydlu un neu fwy Fforwm Mynediad Lleol er mwyn cynghori’r Awdurdod a mudiadau eraill ynghylch gwella mynediad y cyhoedd yn Eryri at ddibenion hamdden a mwynhad y cyhoedd.
Yn Ebrill 2002, sefydlodd Parc Cenedlaethol Eryri ddau Fforwm Mynediad Lleol - un ar gyfer gogledd y Parc ac un (ar y cyd â Chyngor Gwynedd) ar gyfer de’r Parc.
Cafodd y fforymau eu sefydlu yn unol â Rheoliadau Llywodraeth Cynulliad Cymru a chanllawiau Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae aelodaeth y fforymau wedi ei rannu’n gyfartal rhwng y rhai sy’n ymwneud â rheoli tir a’r rhai sy’n ymwneud â hamdden. Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd.
Mae'n rhaid i'r aelodau gael eu hailbenodi bob tair blynedd yn unol â'r Rheoliadau. Mi fydd y broses yn cael ei hailadrodd yn 2020.
Mae gwefan yr Awdurdod yn cyhoeddi'r wybodaeth ganlynol am y Fforymau Mynediad Lleol (Gogledd a De):

FFORWM Y GOGLEDD
Dyddiadau cyfarfodydd - Gogledd Eryri
- 1af o Fawrth 2021
- 7fed o Fehefin 2021
- 6ed o Fedi 2021
- 6ed o Ragfyr 2021
Dyddiadau cyfarfodydd - De Eryri
- 9fed o Fawrth 2021
- 15fed o Fehefin 2021
- 14eg o Fedi 2021
- 14eg o Ragfyr 2021
Am fanylion pellach cysylltwch ag:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth
Gwynedd. LL48 6LF
Ffôn: 01766 770274
Facs: 01766 771211
Ebost: parc@eryri.llyw.cymru