
Sut i fynd yno?
O Ddolgellau, dilynwch yr A470 i'r de. Ar ôl dwy filltir trowch i'r chwith i Frithdir ar y B4416. Croeswch y bont gul Pont ar Ddibyn ymhen 50m. Ymhen 200m wedi hynny mae cilfan ar y chwith a mynegbost yn nodi'r llwybr.
Ychydig am y llwybr...
Dyma un o lwybrau mwyaf poblogaidd cyffiniau Dolgellau ac mae'r llwybr cylch hwn yn dilyn taith fyrlymus afon Clywedog trwy geunant trawiadol. Crëwyd dau lwybr o boptu’r ceunant yn wreiddiol. Thomas Payne, cynllunydd y Cob ar draws yr afon Glaslyn ym Mhorthmadog, a’i fab a greodd y llwybr gwreiddiol. Comisiynwyd y gwaith gan Y Barwn Richards o blas Caerynwch fel estyniad i erddi’r plas sy’n uwch i fyny’r afon. Yn gymharol ddiweddar, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi atgyweirio’r hen lwybr ochr Brithdir y ceunant gan ddilyn y llwybr gwreiddiol lle bo hynny’n bosib. Llwybr trwy ganiatâd tirfeddianwyr yw’r llwybr yr ochr hwn i’r ceunant. Gofynnir i chi barchu eu hewyllys da drwy ddilyn rheolau cefn gwlad bob amser. Mae’r holl geunant yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig oherwydd y cyfoeth o gen, mwsoglau a rhedyn sy’n fynnu yma yn yr awyr gynnes, laith.
Y Llwybr
1. O’r gilfan, cerddwch yn ôl ar hyd y ffordd i gyfeiriad Pont ar Ddibyn am ganllath gan gymryd gofal hefo’r drafnidiaeth. Wrth fynegbost derw Llwybr Clywedog, trowch i’r dde drwy giât fochyn. Byddwch yn croesi pont bren dros y ceunant. Arferai pont ac iddi ganllawiau patrymog o goed fod yma yn union wedi i Thomas Payne gwblhau’r llwybr.
2. Ymhen ychydig cewch eistedd ar fainc i goffau Mary Richards, y botanegydd fu’n byw ym Mhlas Caerynwch ymhellach i fyny’r afon. Teithiodd lawer, i’r Affrig yn bennaf, a bu’n gyfrifol am ddod â sawl planhigyn trawiadol yn ôl i erddi Caerynwch a Kew yn Llundain. Gall sŵn yr afon fod yn fyddarol fan hyn pan fydd llif ar ôl y glaw.
3. Ymhellach ar i lawr mae tair craig fawr ar draws y llwybr a gariwyd yma gan rymoedd rhewlifol 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Sylwch ar yr eiddew, y rhedyn a’r mwsoglau yn doreth dros y coed llydanddail uwchben – coed derw, ffawydd ac ynn. Mae rhywogaethau cenedlaethol prin o gen a llysiau’r afu yn tyfu yma.
4. Fe ddowch maes o law at y ffordd waelod. Nid nepell o Bont Clywedog i gyfeiriad Dolgellau mae olion hen ffwrnais haearn yn dyddio o flynyddoedd cynnar y ddeunawfed ganrif. Abraham Darby, y Crynwr o Coalbrookdale a’i adeiladodd. Roedd ef a Chrynwyr eraill o ffermydd Dolserau a Dolgun yn cloddio am fwyn haearn ar Dir Stent gerllaw a’i gludo i lawr at y ffwrnais. Os cewch gyfle, ewch i weld yr adfeilion. Rhaid cerdded am ganllath a hanner ar hyd y ffordd fach i gyfeiriad Dolgellau o Bont Clywedog.
5. Trowch i’r dde dros Bont Clywedog i barhau ar hyd Llwybr Clywedog (trowch i'r chwith i wyro oddi ar y llwybr i weld olion y ffwrnais). Sylwch ar yr enwau wedi eu naddu i gerrig canllaw’r bont. Hen felin wlân a warws oedd yr adeiladau i’r dde. Roedd ffos y felin yn tynnu dŵr o’r afon yn uwch i fyny ac mae olion i’w gweld hyd heddiw. Roedd yn rhaid rheoli llif y dŵr yn y ffos hon rhag i olwyn ddŵr y felin falu - mewn tywydd gwlyb, gallai lefel a grym dinistriol yr afon godi’n aruthrol mewn dim o dro.
6. Cadwch i’r dde yn y fforch o’ch blaen a cherddwch fyny’r allt nes dod yn fuan at fynegbost arall. Dilynwch y llwybr ar hyd y ceunant yn ôl at y car. Cewch olygfeydd hyfryd o’r rhaeadrau ar hyd y daith, a byddwch yn y gwanwyn yn cerdded drwy goedlan yn llawn clychau’r gog, blodau’r gwynt a chraf y geifr.