
Sut i fynd yno?
O ganol Dolgellau, ewch dros y bont fawr a throwch i'r dde am y Bala. Ar ôl tua 500m trowch i'r chwith ar draws y ffordd i'r Llyfrgell i fyny'r allt am Lanfachreth. Ar ôl tua 2 filltir, ar ben eithaf yr allt, byddwch yn cyrraedd maes parcio Saithgroesffordd ar y chwith ar gyffordd. Mae toiledau yma a digon o le i barcio.
Ychydig am y llwybr...
Nid yw'r daith gylch hon yn llwybr cyhoeddus ond llwybr preifat drwy ran arbennig o hardd ar stad Nannau, sy'n dyddio'n ôl i'r ddeuddegfed ganrif. Mae'r stad wedi rhoi caniatâd i'r cyhoedd ddefnyddio'r llwybr ers 1890 ar y ddealltwriaeth eu bod yn cadw at y côd cefn gwlad, yn dilyn y llwybr a ddynodir ac yn defnyddio'r fynedfa briodol. Cadwch gŵn ar dennyn.
Llwybr Cynwch yw un o atyniadau mwyaf poblogaidd Dolgellau. Aiff â chi drwy wahanol gynefinoedd coetir, planhigfa gonwydd, dolydd, ymyl llyn a llwybr defaid. Prif atyniad y daith yw'r golygfeydd godidog dros aber afon Mawddach a mynyddoedd Eryri. I'r gogledd fe welwch yr Wyddfa a Moelwyn Mawr, y Rhinog Fawr i'r gorllewin, llechweddau Cader Idris i'r de a'r Aran a'r Arenig i'r Dwyrain.
Mae'r llwybr yn dilyn y cyfuchlin 800 troedfedd yn fras yr holl ffordd, felly nid oes angen dringo na disgyn rhyw lawer ar y daith, ac mae'n daith ddelfrydol i'r teulu i gyd. Mae dibyn ar hyd yr ochr orllewinol ('Precipice Walk' yw'r enw yn Saesneg), ond nid yw mor frawychus ag y mae'n swnio ond efallai y bydd angen rhoi help llaw i'r rheiny sy'n dioddef o bendro ar hyd y rhan hon.
Nid oes sicrwydd pryd y dechreuwyd defnyddio'r llwybr, ond mae'r awdurdodau'n credu mai defaid greodd y llwybr yn wreiddiol wrth iddynt grwydro i leoedd pori yn yr haf a'i fod wedi cael ei ledu wrth i'r cyhoedd gerdded ar ei hyd.
Y Llwybr
1. Cychwynwch trwy adael y maes parcio o’r pen agosaf at Ddolgellau, lle mae llwybr yn troi i’r dde drwy’r blanhigfa gonwydd – Coed Cefndiwiog. Fe ddowch maes o law at lôn aiff a chi heibio tŷ Gwern Offeiriaid a thrwy giât at Lyn Cynwch. Coed Fedwfelen sydd i’r chwith ohonoch – mae’n llawn clychau’r gog yn yr haf.
2. Trowch i’r dde wrth y fynegbost. Mae nifer o goed derw hynafol yn tyfu yn y parcdir ochr arall i’r wal ac arnynt boblogaethau pwysig o gen a mwsoglau.
3. Ymhen dim fe gewch olygfa ragorol tua'r gogledd dros Goed y Brenin, o dan ofalaeth y Comisiwn Coedwigaeth. Cerddwch yn eich blaenau pan ddowch at fynegbost arall yn cyfeirio at hen waith copr Glasdir a Gardd Goedwig y Comisiwn Coedwigaeth. Ni fydd y Comisiwn yn ail blannu’r tir a gliriwyd yn ddiweddar ochr isa’r llwybr. Mae’r tir hwn yn rhan o gynllun adfer coedlannau a choed cynhenid fydd yn adfeddiannu’r darn yma. Mae’r llwybr hwn, sy’n rhoi’r dewis i chi gerdded ymhellach ar hyd llwybr hamdden ardal Llanfachreth, bellach wedi ail agor.
4. Dychmygwch ddyffryn yr afon islaw oddeutu 15,000 o flynyddoedd yn ôl. Rhewlif fyddai wedi bod yma yn symud yn araf i lawr tua'r môr. Ers hynny, mae afon Mawddach sy'n troelli tua'r môr wedi gadael llaid ar lawr y dyffryn gwastad gan olygu ei fod yn llawer mwy ffrwythlon nag ochrau geirwon y dyffryn.
Ble mae afonydd Mawddach ac Wnion yn cwrdd, sef cymer yr afonydd, y saif adfeilion abaty Cymer lle ymgartrefodd y mynachod Sistersaidd. Rhoddodd Llywelyn Fawr siarter i’r abaty yn 1209, ond fe’i diddymwyd gan Harri’r wythfed. Cuddiwyd plât a chwpan cymun yr abaty adeg y diddymu hwnnw ar graig ddiarffordd yng Nghwm Mynach tu hwnt i fynydd y Garn sydd yn union i’r gorllewin ohonoch.
5. Dyma un o'r mannau mwyaf ysblennydd o Gader Idris a'i chopaon cyfagos Mynydd Moel, y Cyfrwy a Thyrrau Mawr. Gwreiddiau llosgfynyddig sydd i’r gadwyn hon, a’r creigiau caled wedi gwrthod ildio i nerth y rhewlifoedd. Gwahanol iawn yw’r tirwedd yr ochr draw lle llyfnwyd y creigiau meddalach i greu ‘mwynder Maldwyn’.
6. Roedd coed yn gorchuddio rhan helaeth o’r tir yma filoedd o flynyddoedd yn ôl ac yn ymestyn yn uchel i’r mynyddoedd. O ganlyniad i newid hinsawdd a dylanwad dyn crebachodd yr hen goedwig yn sylweddol. Defnyddiwyd coed ar gyfer diwydiant llongau’r Fawddach gynt, ar gyfer pyllau glo’r De, casglwyd rhisgl ar gyfer ei werthu i danerdai Iwerddon a gwnaed golosg at y diwydiant haearn a fodolai yma. Yn wir, mae enw’r tir uwchben pentref Llanelltyd – Bryniau Glo – yn cyfeirio at yr hen grefft o wneud golosg.
7. Trowch i’r chwith pan gyrhaeddwch Llyn Cynwch a dilynwch y llwybr ar hyd ochr ogleddol y llyn, gan ddilyn y llwybr yn ôl i’r maes parcio.
Ar yr ochr arall i Lyn Cynwch, mae plas hynafol stad Nannau, ac mae'r llwybr hwn yn croesi tir y stad. Mae’n safle hynafol iawn. Mae cofnod fod tŷ wedi’i adeiladu yma yn y C11. Mae’n fwy na thebyg y bu i’r tŷ gwreiddiol gael ei ddinistrio gan Owain Glyndŵr yn ystod y gwrthryfel. Adeiladwyd y tŷ presennol, dros 230m (bron i 750tr) uwch lefel y môr, ym 1796 ar gyfer y teulu Vaughan oedd yn berchen ar ran fwyaf o dir yr ardal. Dyma'r pumed tŷ o leiaf a adwaenir fel Nannau. Mae’n dŷ carreg tri-llawr o’r C18 hwyr, sy’n sgwâr ac wedi’i adeiladu o flociau carreg llwyd tywyll lleol, ac iddo do llechi. Dyma’r plasdy olaf i arfer yr hen draddodiad o noddi bardd a thelynor.