SNPA Print Header
Rydych chi yma: Ymweld > Cerdded > Llwybrau Hamdden Canolig >Arthog

Arthog

Pellter: Tua 9 milltir.
Amser: Tua 6 awr.
Gradd: Llwybr Hamdden Canolig
Dechrau/Diwedd: Maes parcio Arthog, oddi ar yr A493.
Cyfeirnod Grid: SH 640 147.
Tirwedd: Caeau, llwybrau a ffyrdd tarmac.
Map: Arolwg Ordnans Explorer OL23 (Cadair Idris a Llyn Tegid)


Nodwch: Map bras yn unig yw hwn. Dylech ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r map Arolwg Ordnans perthnasol (gweler uchod) wrth gerdded y daith.

Cyfleusterau: Maes parcio, byrddau picnic.
Parcio: Maes parcio Arthog oddi ar A493.

Ychydig am y llwybr...

Methu penderfynu a ydych am grwydro i fyny yn y bryniau neu i lawr wrth y môr? Beth am roi cynnig ar y daith gylch hon yn ardal Arthog? Bydd yn eich arwain i fyny i’r bryniau gyda golygfeydd godidog o forfa’r afon Mawddach i un cyfeiriad a Chader Idris i’r cyfeiriad arall, cyn gostwng yn ôl i lawr at y môr.

Y Llwybr

1. Mae’r daith yn dechrau ym maes parcio Arthog ger Llwybr Mawddach. Oddi yma fe welwch wely hen reilffordd y Great Western a oedd yn weithredol rhwng 1868 a 1965. Mae’r lein sy’n rhedeg o dref Dolgellau i gyffordd Morfa Mawddach bellach ym mherchnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol ac mae’n boblogaidd iawn ymysg cerddwyr a beicwyr.

2. Ewch i’r dde o fynedfa’r maes parcio am oddeutu 100 llath ac yna dros y gamfa ar y chwith. O’ch blaen fe welwch chwarel lechi Ty’n y Coed. Mae’r gwaith ffrwydro bellach wedi dod i ben ond mae’r chwarel yn parhau i werthu llechen fâl.

3. Dilynwch y llwybr ar hyd y clawdd llanw at y giât mochyn. Wyddoch chi ei fod yn hen draddodiad i fachgen a merch gusanu wrth fynd trwy giât mochyn? Ewch i’r chwith o’r giât ac ar hyd y ffordd fawr am ychydig lathenni nes y gwelwch giât fach haearn ar ochr arall y ffordd. Cymerwch ofal wrth groesi’r ffordd fawr i’r coed. Coedwig lydanddail hynafol yw hon ac mae wedi ei dynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig er mwyn gwarchod y planhigion arbennig sy’n tyfu yma. Dewch yma yn y gwanwyn i weld cwrlid borffor o Glychau’r Gog ar lawr y goedwig.

4. Wrth ddringo’r llwybr trwy’r coed fe welwch, ac yn wir fe glywch, afon Arthog ar ran olaf ei thaith tua’r môr. Tarddiad yr afon yw Llyn Cyri ymhell yn y mynyddoedd uwchben.

5. Ym mhen uchaf y goedwig, sylwch ar y goeden ffawydd anferth ger y gamfa! Mae’r goeden hon o leiaf ddau gant o flynyddoedd oed! Unwaith y byddwch wedi dringo dros y gamfa bydd y llwybr yn arwain i’r chwith, ac yn fuan fe ddewch at bont grawiau hardd gyda Thyrrau Mawr yn y cefndir.

6. Yr ochr draw i’r bont ar y dde mae olion Llys Bradwen, hen lys Ednywain ab Bradwen ydyw, pennaeth un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, a drigai yno yn gynnar yn y ddeuddegfed ganrif yn amser y Tywysog Gruffydd ab Cynan.

Yng nghyfnod Ednywain, bron iawn i naw can mlynedd yn ôl, roedd yr adeilad hwn o garreg a phridd yn ddau ran. Trigai Ednywain yn y rhan mwyaf a defnyddiwyd y rhan lleiaf fel llys barn. Roedd maen mawr o boptu’r fynedfa, ond cawsant eu dymchwel yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ôl llên gwerin, ym 1808 arferai’r hen bregethwr, Lewis Morris, bwyso ar un o’r meini wrth bregethu’r efengyl i’r bobl leol.

7. Wedi croesi’r bont a cherdded i fyny’r bryn fe welwch olygfa odidog o aber y Fawddach gyda’r Bermo a phont y rheilffordd yn y pellter. I’r dde o’r Bermo fe welwch fryniau gogleddol aber y Fawddach.

Yng nghreigiau’r bryniau hyn y daethpwyd o hyd i wythiennau aur yn ddamweiniol ym 1834. Dechreuwyd ar y gwaith mwyngloddio aur ym 1847, ac ym 1854 daethpwyd o hyd i wythïen aur gyfoethog yng ngwaith copr Clogau. Mae’r gwaith mwyngloddio bellach wedi dod i ben ond mae cwmni gemwaith Clogau’n parhau i gynhyrchu gemwaith o’r aur gwerthfawr hwn.

8. Wrth ddilyn y llwybr ar draws tir ffermio byddwch, ymhen ychydig, yn ymuno â’r ffordd fach sy’n arwain at Lynnau Cregennen. Pan ddaw’r llynnau i’r golwg bydd y llwybr yn gwyro i’r chwith oddi ar y ffordd fach. Mae cyfleusterau toiled tua 100 llath ar hyd y ffordd o’r man yma (Cyfeirnod Grid SH 657 143) ym maes parcio’r Parc Cenedlaethol. Bydd angen i chi ddychwelyd i’r man yma er mwyn ailymuno â’r daith.

9. Rydych yn awr 800 troedfedd uwch lefel y môr, ac o’r man yma bydd y llwybr yn arwain dros rostir garw gyda Pared y Cefn Hir ar eich ochr chwith a Llynnau Cregennen ar y dde. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd biau’r llynnoedd hyn ac maent yn hynod boblogaidd ymysg pysgotwyr brithyll. Ar y dde o’ch blaen fe welwch Gader Idris, sydd, yn ôl y chwedl wedi ei enwi ar ôl cawr o’r enw Idris a drigai ar y mynydd. Mae nifer o chwedlau’n gysylltiedig â Chader Idris, yr un amlycaf mae’n debyg yw y byddai unrhyw un a syrthiai i gysgu ar y mynydd yn deffro un ai’n wallgof neu’n fardd!

10. Ymhen ychydig byddwch yn mynd heibio hen ffermdy, Ty’n Llidiart, cyn ymuno â’r ffordd darmac. Rhyw ganllath ar hyd y ffordd fe welwch weddillion capel Methodistaidd Calfinaidd Rehoboth. Yn union gyferbyn â’r capel mae’r llwybr yn arwain i lawr trwy’r goedwig gan ailymuno â’r ffordd darmac uwchlaw hostel ieuenctid ‘Kings’.

11. Ar ddiwedd y ffordd darmac byddwch yn croesi’r brif ffordd (cymerwch ofal wrth groesi’r ffordd). Cerddwch ar hyd y rhodfa sy’n arwain at Fferm Abergwynant (peidiwch â mynd i’r chwith at y fferm, ewch yn syth ymlaen at y goedwig).

Wrth nesáu at y goedwig ar ddiwedd y rhodfa fe welwch Blas Abergwynant ar y dde. Yr enw ar y goedwig hon yw Coedwig Abergwynant ac arferai fod yn rhan o stad y Plas. Coedwig dderwen frodorol ydoedd yn wreiddiol, ond yn ystod y 1960au cliriwyd oddeutu 80% o’r coed aeddfed gyda’r bwriad o blannu coed conwydd bytholwyrdd yn eu lle. Erbyn y 1990au roedd cyflwr y goedwig yn dirywio, ac roedd y Rhododendron ponticum yn dod yn fwy o fygythiad. Ym 1996 prynodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol ran helaeth o’r goedwig gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Ers hynny mae’r Parc wedi ymdrechu’n galed i adfer y goedwig arbennig hon trwy gwympo’r coed conwydd a phlannu coed derw a bedw yn eu lle, yn ogystal â rheoli lledaeniad y Rhododendron ponticum. Llwyn ymledol yw’r Rhododendron ponticum sy’n lledaenu’n gyflym yn Eryri ac yn niweidiol iawn gan eu bod yn rhwystro golau’r haul rhag treiddio at blanhigion brodorol sy’n tyfu oddi tanynt.

12. Ar y chwith wrth i chi gerdded ar hyd y trac heibio’r goedwig, fe welwch weddillion odynau calch. Yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif arferai cychod gludo calch i’r man hwn, lle byddai’n cael ei losgi yn yr odynau cyn ei chwalu ar dir amaethyddol fel gwrtaith.

13. Ar ddiwedd y trac byddwch yn ymuno â Llwybr Mawddach. Ewch i’r chwith ger y bont. Dyma ddarn olaf y daith a bydd yn eich arwain yn ôl i faes parcio Arthog ar hyd hen wely rheilffordd y Great Western.

Mae diwydiant wedi bod yn rhan bwysig o hanes Morfa Mawddach ers y 1770au. Arferwyd adeiladu llongau yng nghilfachau’r aber o’r coed derw a dyfai yno. Golygfa gyffredin iawn hefyd oedd gweld llongau hwylio’n mynd â dod i fyny’r afon, yn allforio gwlanen, llechi a rhisgl coed ac yn mewnforio calch a giwana i’w defnyddio ar ffermydd lleol. Mae olion y ceiau i’w gweld ar hyd ymyl y morfa heddiw.

14. Ymhen tua dwy filltir fe gyrhaeddwch yn ôl ym maes parcio Arthog.

Arthog
Arthog
Arthog
Map Arolwg Ordnans: OL23
Explorer OL23

Parchwch yr Amgylchedd!
Os ydych yn mynd i gerdded,
ewch â’ch sbwriel adre hefo
chi gan gynnwys
gweddillion
ffrwythau
a stwmpiau
sigaréts.

Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk