
Cliciwch ar y map i weld fersiwn mwy mewn dogfen PDF
Beth sy'n arbennig am y llwybr hwn?
Lleolir y llwybr hwn yn ne Parc Cenedlaethol Eryri, a chaiff ei ystyried yn un o lwybrau gorau Prydain, ar gyfer beicwyr yn ogystal â cherddwyr. Mae'r llwybr hardd hwn yn dilyn aber yr Afon Fawddach, gan roi cyfle euraid i ymwelwyr weld golygfeydd trawiadol a gwylio adar a bywyd gwyllt. Mae'r llwybr yn ymestyn am naw milltir rhwng Dolgellau ac Abermaw. Gellir ymuno â'r llwybr ar sawl pwynt rhwng Dolgellau ac Abermaw, gan gynnwys Morfa Mawddach a Llyn Penmaen (gweler y map).
Mae Llwybr Mawddach yn dilyn trac yr hen reilffordd o’r Bermo i Riwabon. Agorwyd y lein ym 1865 ac roedd yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Defnyddiwyd y lein am gyfnod ar gyfer cario llechi. Wrth i geir ddod yn fwy poblogaidd, nid oedd y lein yn gost-effeithiol ac fe’i caewyd ym 1965.
Dilyna’r llwybr yr afon Mawddach sydd wedi’i dynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig oherwydd y cynefinoedd morfa heli a’r mawndir sydd yma.
Y Llwybr
Mae Llwybr Mawddach wedi ei nodi'n glir ac mae'n hawdd i'w ddilyn. Gellir ymuno â’r llwybr o’r lleoedd canlynol ble y mae meysydd parcio:
• Y Marian, Dolgellau
• Pont y Wernddu
• Llynpenmaen
• Arthog
• Morfa Mawddach
• Abermaw
Gwybodaeth Bwysig!
Cymerwch ofal os bydd tywod wedi ei chwythu ar y llwybr wedi i chi fynd heibio Pont Abermaw (mae'r bont bren ei hun yn wastad ac yn llydan).
Mae'r llwybr rhwng Dolgellau a Morfa Mawddach yn eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac mae lled y rhan hwn o'r llwybr yn cyrraedd 3 metr.
Cyfleusterau
• Ceir toiledau cyhoeddus hygyrch yn y Marian yn Nolgellau, Llynpenmaen, Morfa Mawddach a'r Bermo.
• Mae nifer o feinciau a byrddau picnic hygyrch ar hyd y llwybr.
• Mae'r giatiau beicio yn ddigon llydan i gadeiriau olwyn a choetshis fynd trwyddynt.
Gwybodaeth Ddefnyddiol
• Os bydd arnoch angen unrhyw wybodaeth am y llwybr neu am yr ardal yn gyffredinol, gan gynnwys cludiant cyhoeddus yn yr ardal, cysylltwch neu ymwelwch â Chanolfan Groeso Dolgellau - 01341 422888 / tic.dolgellau@eryri-npa.gov.uk
• Oes arnoch awydd pysgota ar y Fawddach? Cysylltwch â Chymdeithas Bysgota Dolgellau ar 01341 422706