SNPA Print Header
Rydych chi yma: Ymweld > Cerdded > Llwybrau Hamdden Hawdd >Coed Abergwynant

Coed Abergwynant

Amser: Tua 2 awr
Gradd: Llwybr Hamdden Hawdd
Dechrau / Diwedd: Maes Parcio Llynpenmaen, ger Dolgellau
Map perthnasol: Arolwg Ordnans Explorer OL 18 Harlech, Porthmadog a'r Bala
Gwybodaeth Ddefnyddiol: Gwisgwch esgidiau cerdded cyffyrddus a dillad glaw (gall y daith hon fod yn fwdlyd). Mae'n werth mynd â sbienddrych gyda chi



Nodwch: Map bras yn unig yw hwn. Dylech ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r map Arolwg Ordnans perthnasol (gweler uchod) wrth gerdded y daith.

Beth sy'n arbennig am y llwybr hwn?
Mae’r daith wastad hon yn cynnwys peth o Lwybr Mawddach sydd yn daith 9 milltir (15km) fendigedig o’r Bermo i Ddolgellau, ac sydd hefyd yn cynnwys coetir hyfryd Abergwynant. Mae coetir hynafol yma ers o leiaf yr 17eg ganrif. Yn ystod yr 1960au plannwyd coed conwydd yno gan waredu’r rhan fwyaf o’r coed cynhenid. Prynwyd y safle gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym 1996 ac ers hynny, mae’r gwaith o geisio cael gwared ar y rhododendron ponticum a’r coed conwydd ac adfer y coed cynhenid fel y derw mês digoes, bedw a chelyn wedi bod yn mynd rhagddo.

Mae taflen am Lwybr y Mawddach ar gael yn ein Canolfan Groeso yn Nolgellau ac yng Ngwesty George III.

Y Llwybr

1. O’r maes parcio croeswch y ffordd sy’n arwain at Bont Llynpenmaen gan gerdded heibio Gwesty George III ar hyd y ffordd darmac. Yn fuan, mae’r ffordd yn troi’n drac. Dilynwch y trac hwn gan fynd trwy’r giât. Dyma drac yr hen reilffordd o’r Bermo i Riwabon. Agorwyd y lein ym 1865 ac roedd yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Defnyddiwyd y lein am gyfnod ar gyfer cario llechi. Wrth i geir ddod yn fwy poblogaidd, nid oedd y lein yn gost-effeithiol ac fe’i caewyd ym 1965. Ar y dde i’r llwybr mae’r afon Mawddach sydd wedi’i dynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig oherwydd y cynefinoedd morfa heli a’r mawndir sydd yma.

2. Ymhen ychydig, fe ddowch at fwrdd picnic a giât ar ochr chwith y trac. Giât dderw 'gwyrdd' yw hon sydd wedi’i gwneud o goed derw sydd wedi cwympo ar y safle hwn. Ewch trwy’r giât gan ddilyn y llwybr igam ogam i fyny trwy’r coed. Mae’r grisiau derw a’r pontydd ar y safle hefyd yn defnyddio coed sydd wedi cwympo yn lleol. Yn fuan wedi cychwyn y gwaith o glirio’r rhododendron oedd yn mygu’r safle, fe sylwyd bod mwy o adar i’w clywed yma.

3. Mae’r llwybr yn eich tywys yn raddol i ben y bryn ac at fwrdd picnic lle mae golygfa odidog i’w chael o aber yr afon Mawddach. Ar ochr arall yr afon Mawddach, a welwch chi Farchynys, coetir arall o eiddo’r Awdurdod sydd hefyd ar agor i’r cyhoedd ei mwynhau?

4. Dilynwch y llwybr yn ôl o’r bwrdd picnic gan gadw i’r dde wrth y fforch ac yna gadw i’r dde unwaith eto wrth i chi gyrraedd y trac. Mae’r trac hwn sy'n dilyn yr afon Gwynant yn eich arwain yn ôl i lawr i Lwybr y Mawddach. Wrth fynd ar hyd y trac hwn mae enghraifft wych o hen odyn galch. Byddai'r llongau'n dod â chalchfaen yma o ardal y Gogarth, Llandudno a'r calch a gynhyrchwyd yn cael ei daenu ar y tir i'w ffrwythloni.

5. Trowch i’r dde wrth i chi gyrraedd y bont a chychwyn ar Lwybr y Mawddach yn ôl am y maes parcio, gan fwynhau’r olygfa i fyny’r afon tuag at Lwybr Cynwch yn syth o’ch blaen, Cader Idris i’r de a’r Llethr a’r Diffwys i’r gogledd.


Pam bod angen cael gwared ar y Rhododendron?
Cyflwynwyd y Rhododendron ponticum i Brydain oddeutu 200 mlynedd yn ôl fel llwyn addurniadol ac fe’i plannwyd yng ngerddi llawer o dai mawr. Mae’n hoffi llawer o law a hinsawdd laith yn ogystal â phridd asid. Pan fydd y Rhododendron yn lledu mae’n taflu cysgod trwchus ac ni all unrhyw blanhigyn dyfu oddi tano. O’r herwydd mae pob blodeuyn, rhedyn a mwsogl yn diflannu ac ni all coed ifanc dyfu sy’n golygu na fydd coed ifanc i gymryd lle’r rhai hyn wrth iddynt farw.

Pontydd, Betws y Coed
Cynwch, Dolgellau
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk