
Beth am dro hamddenol mewn parcdir hardd ar odre Cadair Idris yn ne'r Parc Cenedlaethol? Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi datblygu dros 1.25 cilometr o lwybr hygyrch yn y llecyn arbennig hwn.
Lleoliad - Maes Parcio Dôl Idris, Talyllyn ar y B4485 (ger y gyffordd i'r A487)
Cyfeirnod Grid - SH 732 115
Y llwybr - Tua 1.25kn o lwybr hygyrch
Cyfleusterau - Maes parcio, toiledau, toiled hygyrch, byrddau picnic hygyrch
Gwybodaeth Ddefnyddiol - Gall staff ein Canolfan Wybodaeth yn Nolgellau eich darparu a gwybodaeth leol ragorol. Ffôn 01341 422 888 neu e-bost tic.dolgellau@eryri-npa.gov.uk
Cludiant Cyhoeddus - Gwasanaeth Bws Rhif 30. Am fwy o fanylion ewch i www.traveline-cymru.org.uk neu ffoniwch 0871 200 22 33
Hanes
Rhoddwyd y tir hwn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gan Mr Ivor Idris ar ddechrau'r 1980au. Teulu Ivor Idris oedd yn cynhyrchu'r diodydd ysgafn adnabyddus 'Idris' ac mae olion yr hen labordy a ddefnyddiwyd i'w gweld ar y safle hyd heddiw.
Yn ystod 2004 cyflawnodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Phartneriaeth Llwybrau Ucheldir Eryri lawer iawn o welliannau i'r safle yn cynnwys gwella'r llwybr, adeiladu pont a gwaith tirlunio. Agorwyd y llwybr yn swyddogol ym mis Gorffennaf 2004 gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC.
Dair blynedd yn ddiweddarach yn 2007, gydag arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, cyflawnodd yr Awdurdod waith datblygu ychwanegol ar y safle ac ychwanegwyd dolen 645 metr o lwybr hygyrch at y llwybr gwreiddiol.