SNPA Print Header
Rydych chi yma: Ymweld > Eryri >Bywyd Gwyllt

Bywyd Gwyllt

Mae fflora a ffawna yn ffynnu yng nghynefinoedd amrywiol Eryri, o’r mynydd i’r môr, yn y dyffrynnoedd coediog, ac ar hyd y dolydd a’r afonydd. Cydnabyddir nifer o rywogaethau byd natur am eu pwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae tua 20% o Barc Eryri wedi'i ddynodi o dan gyfraith Prydain a chyfraith Ewrop i ddiogelu ei fyd natur arbennig. Mae tua hanner yr ardal honno wedi’i dynodi’n Ardal Gadwraeth Arbennig gan y Llywodraeth o dan y Cyfarwyddyd Cynefinoedd Ewropeaidd.

Un planhigyn sy’n unigryw i Eryri yw’r planhigyn arctig-alpinaidd, Lili'r Wyddfa a geir ar lethrau’r ucheldir. Mae chwilen yr Wyddfa hefyd yn greadur prin iawn a welir yma.

Mae tair ardal wedi’u dynodi’n Safleoedd RAMSAR, sef gwlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol. Y rhain yw Gwarchodfa Bïosffer Aber Dyfi, Cwm Idwal a Llyn Tegid. Mae’r holl arfordir a’r amgylchedd arforol islaw’r marc penllanw isel wedi’u dynodi’n Ardal Gadwraeth Arbennig Arforol.

Mae yna 17 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol ym Mharc Cenedlaethol Eryri; mwy nag unrhyw Barc Cenedlaethol arall yng Nghymru a Lloegr. Mae yma hefyd 56 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Yn Llyn Tegid, sef y llyn naturiol mwyaf yn y Parc, ceir creadur prin arall, sef y Gwyniad. Dyma isrywogaeth unigryw o’r pysgodyn gwyn Ewropeaidd, a gafodd ei ddal yn y llyn ddiwedd Oes yr Iâ diwethaf, tua deng mil o flynyddoedd yn ôl.

Tegeirian
Bwncath
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk