
Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri yn 1951, a dyma'r trydydd parc mwyaf o'r 15 yn y DU. Mae'r Parc yn ymestyn dros 2,132 km sgwâr (823 milltir sgwâr) ac yn ymestyn o linell y penllanw ym Mae Ceredigion yn y gorllewin, hyd Ddyffryn Conwy yn y dwyrain ac o'r Afon Dyfi a'i haber yn y de, i arfordir Bae Conwy cyn belled â Chonwy yn y gogledd. Dengys map o Ffin y Parc y tir sydd oddi fewn y Parc Cenedlaethol.
Ym Mharc Cenedlaethol Eryri saif yr Wyddfa sydd yn 1085m (3,560 troedfedd). Dyma'r copa uchaf yng Nghymru a Lloegr. Yr hen enw ar y mynydd oedd Yr Wyddfa Fawr, sef carnedd gladdu neu orsedd fawr, enw arall arno oedd Carnedd y Cawr. Heddiw Yr Wyddfa yw ei enw, ond mae'r amrywiol enwau yn dyst i hen chwedloniaeth y tir, ei hanes a'i draddodiad. Dyma deyrnas hynafol Gwynedd, calon Cymru a chadarnle'r iaith Gymraeg ac mae ei pharhad yn yr ardal hon yn dyst i gryfder a natur ddigyfnewid Eryri.
Mae Eryri neu 'Snowdonia' yn creu darlun yn y meddwl o ucheldir anial a'r gwynt yn rhuo drosto, 'raison d’être’ dynodiad y Parc yn y lle cyntaf. Mae'r naw cadwyn o fynyddoedd yn ymestyn dros tua 52% o'r Parc ac yn cynnwys sawl copa sydd dros 3000 troedfedd (915m). Heblaw am ei harddwch a hudoliaeth ei mynyddoedd uchel, mae gan Eryri gynefinoedd naturiol a lled-naturiol unigryw. Mae tirlun Eryri yn rhyfeddol o amrywiol gyda'i ceunentydd dyfnion, rhaeadrau ysblennydd, ei bylchau serth a'i chymoedd gleision. Yma ac acw ledled y Parc, gwelir olion yr hen goedwigoedd derw, ynn, criafol a chyll oedd dros bob man unwaith, tra bod aberoedd heirdd afonydd Dyfi, Mawddach a Dwyryd, ynghyd â 23 milltir o arfordir a thraethau hirfelyn, yn cyfrannu tuag at yr amrywiaeth cynefin. Cydnabyddir yr ystod hwn o gynefinoedd yn genedlaethol a rhyngwladol trwy amryw o ddynodiadau, gan gynnwys Gwarchodfeydd Natur, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Aber yr afon Mawddach sydd yn Safle Biosffer Byd arfaethedig.

