
Yn Eryri, mae nifer o lwybrau hygyrch sydd yn addas i bawb eu mwynhau. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy o fanylion am bob llwybr:
Mae'r ddau lwybr a restrir isod yn fwy heriol ac mae angen ychydig mwy o hyder a stamina er mwyn eu cwblhau:
• Llwybr Rhaeadr Fawr, Abergwyngregyn
• Rhaeadr Dôl-goch - y llwybr hyd at y rhaeadr cyntaf
Mae map yn cyd-fynd â'r daith a gwybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael ar y llwybrau. Ein gobaith ydi, trwy ddefnyddio'r wybodaeth yma, y byddwch yn gallu penderfynu lle sydd orau ar eich cyfer chi.
Cyn cychwyn ar eich taith, cofiwch y gall ansawdd llwybrau yng nghefn gwlad amrywio o dymor i dymor neu hyd yn oed o ddydd i ddydd. Efallai yn ogystal y bydd gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud o dro i dro a fydd yn golygu peth newid yn ansawdd y llwybr.