
Croeso i 'Eryri i Bawb', prosiect sydd yn anelu at helpu ac annog pobl sydd yn anabl, yn llai abl neu sydd â phlant ifanc i ymweld ag Eryri er mwyn ymlacio a mwynhau. Ein gobaith ydi darparu gwybodaeth, er mwyn rhoi rhagor o ddewisiadau i chi wrth ymweld ag Eryri.
Mae Eryri i Bawb yn cynnwys gwybodaeth ar drawstoriad eang o elfennau Parc Cenedlaethol Eryri, er enghraifft, llwybrau, trefi a phentrefi a theithiau car, a fydd yn eich galluogi i brofi yr ardal. Hyderwn y bydd ‘Eryri i Bawb’ yn rhoi cyfle gwych i chi gael blas ar rai o fwynderau yr ardal cyn i chi fentro yma, fel y byddwch yn barod ar gyfer yr anturiaethau sydd gan Eryri i’w cynnig i ymwelwyr o bob gallu corfforol. Ceir yma hefyd wybodaeth am rai rhinweddau lleol sydd yn gorwedd y tu hwnt i ffiniau’r Parc.
Am fwy o fanylion ynghylch sut mae cael yr wybodaeth mewn gwahanol fformatau e.e. print bras, testun yn unig, mwy o gyferbyniad rhwng testun a chefndir ac ati, yna cliciwch ar 'Hygyrchedd' ar waelod y dudalen hon.
Am ragor o wybodaeth ynghylch 'Cynllun Cydraddoldeb Anabledd' Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri neu i lawrlwytho copi PDF o'r ddogfen cliciwch ar 'Cynllun Cydraddoldeb' ar y chwith.
Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol i chi ac y byddwch yn mwynhau eich ymweliad ag Eryri.

