
Os ydych am gael gwybodaeth am Eryri, ewch draw i un o Ganolfannau Croeso'r Parc Cenedlaethol. Cewch yno wybodaeth am ddigwyddiadau, atyniadau a gweithgareddau hamdden lleol ynghyd â chyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus. Gall y staff eich helpu gyda phob math o ymholiadau - gallwch archebu lle i aros yn Eryri neu unrhyw le ym Mhrydain, a chael awgrymiadau am atyniadau diddorol yn yr ardal.
I weld manylion am bob un o'r Canolfannau Croeso, cliciwch ar symbol ar y map isod, neu cliciwch ar ddolen ar y chwith.
Yn y Canolfannau, ceir amrywiaeth fawr o gofroddion, mapiau, llyfrau am yr ardal, ynghyd ag arddangosfa fach am bob un o Ganolfannau Croeso'r Parc Cenedlaethol a'r ardal leol.
A hyd yn oed os na fyddwch yn agos at y Canolfannau, mae'r wybodaeth yna ar gael yn un o'r wyth pwynt gwybodaeth mewn rhai Swyddfeydd Post a siopau bach.

