
Yr Wyddfa yw mynydd uchaf Cymru a Lloegr a'i uchder yw 1,085m. Yn ôl yr hanes, beddrod (neu 'gwyddfa') Rhita Gawr yw'r copa. Ar y copa mae caffi a gorsaf rheilffordd y trên bach lle'r heidia miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn ar y trên neu ar droed.
Gallwch weld ymhell dros y Parc Cenedlaethol o'r copa ar ddiwrnod clir, ac weithiau cyn belled ag Iwerddon dros Fôr Iwerddon.

