
Mae Hafod Eryri yn awr ar agor!
Agorodd Hafod Eryri, yr adeilad newydd ar gopa’r Wyddfa, ei ddrysau i'r cyhoedd ar y 12fed o Fehefin 2009.

Mae’r ganolfan ymwelwyr newydd yn adeilad o gynllun unigryw a adeiladwyd o ithfaen ac mae golygfeydd anhygoel i’w gweld o’r wal wydr, y “ffenestr ar y byd”, ar hyd blaen y ganolfan. Gweithreda hefyd fel terminws ar gyfer Cwmni Rheilffordd yr Wyddfa ac mae’n darparu cyfleusterau lluniaeth, tai bach, ynghyd â gwaith dehongli’r mynydd, ei hanes a sut i’w fwynhau. Mae llawer o’r gwaith dehongli yn rhan o adeiladwaith yr adeilad.
Ysgythrwyd llinellau o gerddi cyn Fardd Cymru, Gwyn Thomas ar yr adeilad, fydd o’r diwedd yn darparu strwythur addas i adeilad uchaf Cymru a Lloegr.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â

