SNPA Print Header
Rydych chi yma: Ymweld >Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

C. Ga’ i fynd i unrhyw le yn y Parc Cenedlaethol?

A.
Na. Tir preifat yw rhan fwyaf o’r tir yn y Parc Cenedlaethol. Gallwch ymweld â bron bobman trwy ddefnyddio’r rhwydwaith eang o lwybrau cyhoeddus. Hefyd, gallwch gerdded ar hyd ardaloedd eang o uwchdiroedd a thiroedd heb eu trin trwy’r hawliau tir agored. Mae’r Côd Cefn Gwlad yn rhoi cyngor i ymwelwyr a thirfeddianwyr ar sut i barchu, gwarchod a mwynhau cefn gwlad.

C. Faint o’r gloch y mae’r Parc ar agor, a faint yw’r gost i fynd i mewn?

A.
Mae Parc Cenedlaethol Eryri ar agor trwy’r amser, ac nid oes dim cost i ddod i mewn i’r Parc.

C. Ble ga’ i fynd â ’nghi yn y Parc Cenedlaethol, ac a oes raid iddo fod ar dennyn?

A.
Mae cefn gwlad yn lle ardderchog i fynd â'ch ci am dro. Ond, dyletswydd pob un sy'n berchen ar gi yw gofalu nad ydi'r ci’n peryglu neu'n poenydio anifeiliaid fferm, bywyd gwyllt neu bobl eraill.

> Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i chi reoli'ch ci, a'i rwystro rhag dychryn neu darfu ar anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt. Yn y cyfnod rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, rhaid i chi gadw'ch ci ar dennyn byr pan fyddwch chi ar dir agored a thir comin. Rhaid gwneud hynny hefyd gydol y flwyddyn pan fyddwch chi'n agos at anifeiliaid fferm.
> Cyn belled â'ch bod chi'n cadw'ch ci dan reolaeth dynn, does dim rhaid i chi ei roi ar dennyn ar lwybrau cyhoeddus. Ond, fel rheol gyffredinol, mae'n well ei gadw ar dennyn os nad ydych yn gallu dibynnu arno i fod yn ufudd. Yn ôl y gyfraith, mae gan ffermwyr yr hawl i ddifa cŵn sy'n anafu neu'n poeni'u hanifeiliaid.
> Os yw anifail fferm yn rhedeg ar eich ôl, mae'n fwy diogel i chi adael eich ci oddi ar ei dennyn. Peidiwch â pheryglu'ch hun trwy geisio amddiffyn y ci.
> Byddwch yn arbennig o ofalus i rwystro'ch ci rhag dychryn defaid ac ŵyn. Peidiwch â gadael iddo grwydro i fannau lle y gallai darfu ar adar sy'n nythu ar y ddaear neu fywyd gwyllt arall. Heb gael eu hamddiffyn gan eu rhieni, mae wyau ac anifeiliaid ifanc yn marw'n fuan.
> Mae pawb yn gwybod mor annymunol yw baw ci. Mae hefyd yn gallu lledaenu heintiau. Felly, gofalwch eich bod chi'n glanhau ar ôl eich ci bob tro, a'ch bod chi'n cael gwared â'r baw mewn ffordd gyfrifol. Gofalwch hefyd fod eich ci'n cael triniaeth reolaidd ar gyfer llyngyr.
> Ar rai adegau, fydd cŵn ddim yn cael mynd i rai rhannau o dir agored, neu efallai y bydd yn rhaid cadw'r ci ar dennyn. Dilynwch unrhyw arwyddion.

C. A oes raid i mi dalu am barcio yn y Parc?

A.
Mae amrywiaeth eang o feysydd parcio yn y Parc Cenedlaethol, o feysydd parcio sy’n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol, i’r rhai hynny sy’n cael eu gweithredu gan reolwyr tir cyhoeddus fel RSPB a’r Comisiwn Coedwigaeth, i’r rheolwyr tir preifat a’r stadau unigol. Mae mwyafrif o’r meysydd parcio hyn yn rhai talu-ac-arddangos.

C. Ga’ i wersylla unrhyw le yn y Parc Cenedlaethol neu a ydw i angen caniatâd?

A.
Er y dylid cyfyngu gwersylla i wersylloedd awdurdodedig, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn derbyn fod gwersylla’n wyllt ar fynydd-dir agored, yn bell o’r ffyrdd, yn cael ei dderbyn yn gyffredinol os yw’n cael ei weithredu’n gyfrifol gan nifer fechan o bobl.

Os ydych yn dymuno gwersylla ar fynydd-dir agored, dylech wneud y canlynol:
> gofyn caniatâd y tirfeddiannwr
> bod o olwg unrhyw ffordd neu dŷ
> peidio gadael unrhyw sbwriel
> peidio cynnau tân

Gan nad yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn berchen ar y mwyafrif o’r tir sy’n addas ar gyfer gwersylla’n wyllt, nid ydym mewn sefyllfa i roi caniatâd uniongyrchol ar gyfer gwersylla’n wyllt. Rydym yn cynghori unrhyw un sy’n dymuno gwersylla’n wyllt fod rhaid cael caniatâd y tirfeddiannwr.

Mae’n werth nodi hefyd bod gwahaniaeth rhwng gwersylla’n hollol wyllt – na ddylai adael unrhyw ôl ac o ganlyniad yn creu dim problem – â grwpiau mawr sy’n gwersylla ar safleoedd poblogaidd, a all, ac sydd yn arwain at sbwriel yn cael ei adael, llygredd a diffyg harddwch a naws am le. Mae hyn yn broblem mewn rhai ardaloedd poblogaidd iawn, yn enwedig yng ngogledd y Parc Cenedlaethol.

C. Sut y gallaf ddod o hyd i feysydd carafanio a gwersylla yn y Parc?

A.
Mae gan Eryri nifer fawr o feysydd carafanau a gwersylla i'w cynnig, o feysydd gwersylla bach i feysydd mawr sy'n cynnig lle i garafanau a phebyll i'r teulu cyfan. Ewch draw i’n Canolfannau Croeso am fwy o wybodaeth neu ewch i wefan Eryri Mynyddoedd a Môr.

C. Ga’ i fynd â canŵ / caiac / rafft / hwylfwrdd ar afonydd a llynnoedd o fewn y Parc?

A.
Yn gyfreithiol, nid oes neb yn berchen ar y dŵr ei hun, ond mae pwy bynnag sy’n berchen ar y tir ar hyd glan yr afon (perchennog glannau afon) hefyd yn berchen ar yr hawliau eiddo i wely’r afon. O dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, mae unrhyw un sydd ar y dŵr hwnnw heb ganiatâd y perchennog glannau afon yn tresbasu. Mae hawliau mynediad i rai o afonydd a llynnoedd Eryri. Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chymdeithas Canŵio Cymru.

C. Beth yw’r rheolau ynghylch pysgota yn y Parc Cenedlaethol?

A.
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnig rhai o’r dyfroedd gorau ym Mhrydain ar gyfer pysgota. Ond cyn mentro allan i bysgota, gwnewch yn siwr fod gennych drwydded gwialen Asiantaeth yr Amgylchedd y gallwch ei phrynu o unrhyw Swyddfa Bost neu trwy fynd i wefan Asiantaeth yr Amgylchedd, a thocyn dilys gan y gymdeithas neu’r bysgodfa briodol y gallwch ei brynu o bysgodfeydd, siopau pysgota neu o Ganolfannau Croeso.

C. Ga’ i wasgaru llwch yn y Parc Cenedlaethol?

A.
Dim ond ychydig o dir y mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn berchen arno o fewn y Parc Cenedlaethol ac felly yr ateb yw fod rhaid i chi gael caniatâd y tirfeddianwyr gyntaf. Rydym yn gwerthfawrogi y gall pobl ddatblygu ymlyniad mawr i rai lleoedd felly nid oes gan yr Awdurdod wrthwynebiad i hyn, ond gan fod mwyafrif helaeth o’r tir yn berchen i dirfeddianwyr preifat mater o gwrteisi ydyw i ofyn eu caniatâd.

C. A fydd gwasgaru llwch yn effeithio ar fywyd naturiol yr ardal?

A.
Fel popeth arall, y mae’n gwestiwn o raddfa ac ni fyddai’r Awdurdod yn cymeradwyo unrhyw beth a fyddai’n newid yr ecosystem naturiol yn yr ardaloedd o ddiddordeb cadwraethol. Mae tua 29% o Eryri wedi ei ddynodi am ei bwysigrwydd gwyddonol arbennig, ac felly o fewn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (NNR) byddai angen ymgynghoriad ar geisiadau o’r fath.

C. Ga’ i wasgaru llwch ar gopa’r Wyddfa?

A.
Mae’r Awdurdod yn cymryd ardal o dir ar gopa’r Wyddfa ar brydles gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Fodd bynnag, mae’r copa yn lecyn poblogaidd dros ben ac yn gallu bod yn wyntog iawn, ac felly mae’n bosib na fydd modd i chi gael dim preifatrwydd ar gyfer beth a all fod yn weithred emosiynol iawn a gall hefyd fod yn anghyfleus i eraill. Mae copaon eraill yn llai prysur ac yn fwy preifat ac efallai y byddai’n bosib eu defnyddio yn dibynnu ar ganiatâd y tirfeddiannwr, wrth gwrs. Mae’r rhybudd ynghylch ardaloedd o ddiddordeb cadwraethol yn parhau i fod yn berthnasol yn yr achos hwn hefyd.

C. Ga’ i godi carreg goffa neu ddarparu mainc er cof am un annwyl?

A.
Nid yw’r Awdurdod o blaid gosod cerrig neu feinciau ar y mynydd gan eu bod yn amharu ar y teimlad o ddiffeithwch y mae nifer o bobl yn dod yma i’w fwynhau. Fodd bynnag, gall rhai safleoedd a reolir yn ffurfiol fod yn addas, a thra nad oes gennym ni safleoedd addas efallai y gall yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu’r Comisiwn Coedwigaeth eich cynorthwyo. Er hynny, gall yr Awdurdod dderbyn rhoddion ariannol yn arbennig ar gyfer cynorthwyo i gynnal a chadw ardaloedd o’r fath.

Llyn Mymbyr a Phedol Yr Wyddfa
Tal-y-llyn
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk