SNPA Print Header
Rydych chi yma: Ymweld

Ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn rhan arbennig o'r wlad lle mae pobl yn dod i ymlacio a mwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden mewn amgylchedd godidog.

App iPhone Parc Cenedlaethol Eryri
'Mwynhau Eryri’ yw eich arweiniad symudol perffaith
i fwynhau, crwydro a darganfod Parc Cenedlaethol
Eryri a sicrhau bod eich ymweliad yn un
bythgofiadwy.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Eryri/Snowdonia 2011-12
Mae cylchgrawn blynyddol y Parc Cenedlaethol,
Eryri 2011-2012 yn awr ar gael ar-lein!
Cliciwch yma i agor yr e-gylchgrawn sy’n
llawn dop o wybodaeth a syniadau i’ch helpu i
wneud y mwyaf o’ch amser yn Eryri!

Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa

Mae tirlun Eryri yn unigryw. Mae'r naw cadwyn o fynyddoedd yn gyfystyr â 52% o'r Parc ac yn cynnwys llawer o gopaon sydd dros 3,000 o droedfeddi (915m). Heblaw am harddwch a hyfrydwch ei fynyddoedd uchel, mae tirlun Eryri yn amrywiol iawn ac yn cynnwys ceunentydd afonydd serth, rhaeadrau a dyffrynnoedd gwyrdd. Mae coetiroedd derw, onnen, criafol a chyll i'w cael ledled y Parc tra bod aberoedd hardd afonydd Dyfi, Mawddach a Dwyryd a 23 milltir o arfordir a thraethau euraidd yn cyfrannu at gyfoeth cyffredinol y tirlun.

Bob blwyddyn mae mwy na 6 miliwn o ddyddiau ymweld yn cael eu treulio yma. Os ydych am ddod yma, mawr obeithiwn y bydd y rhan yma o'r safle yn eich helpu i drefnu'ch ymweliad a'i wneud yn fwy dymunol.

Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa
Llwybrau'r Wyddfa
Llwybrau'r Wyddfa
Llwybrau Hygyrch
Llwybrau Hygyrch
Teithiau Archaeolegol
Teithiau
Archaeolegol
Cyrsiau Cerdded
Cyrsiau Cerdded
Beicio yn Eryri
Beicio
Canolfannau Croeso
Canolfannau Croeso
Rhagolygon y Tywydd
Rhagolygon y
Tywydd
Diogelwch Mynydd
Diogelwch Mynydd
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk