
Yr hyn y caniateir i chi ei wneud
Cewch argraffu copïau o unrhyw dudalen unigol ar gyfer eich defnydd personol eich hunan neu at ddiben addysgol. Mae hyn yn cynnwys gwneud copïau er mwyn eu storio ar gof dros dro neu gopïau a wneir pan gaiff y ffeil ei lawrlwytho yn unig, ar yr amod na wnewch unrhyw rai o’r hyn a fanylir arnynt isod dan “Yr hyn na chewch ei wneud”.
Yr hyn na chewch ei wneud
Copïo (boed hynny trwy argraffu ar bapur, storio ar ddisg neu mewn unrhyw ffordd arall), dosbarthu (gan gynnwys dosbarthu copïau), ymyrryd â neu altro mewn unrhyw ffordd neu fel arall ddefnyddio unrhyw ddeunydd ar y wefan hon ac eithrio’r hyn a ddywedir uchod yn “Yr hyn y caniateir i chi ei wneud”.
Copïo unrhyw ddeunydd o’r wefan hon at unrhyw ddiben masnachol arall.
Tynnu unrhyw hysbysiadau hawlfraint, nod masnach neu unrhyw hysbysiadau eiddo deallusol eraill neu ddyfrnod a gynhwysir yn y deunydd gwreiddiol neu o unrhyw ddeunydd a gopïwyd neu a argraffwyd o’r wefan.
Defnyddio’r wefan ar gyfer unrhyw weithgareddau sy’n torri unrhyw gyfraith, torri ar hawliau unrhyw barti arall, neu dorri unrhyw safonau, anghenion cynnwys neu godau a gyhoeddwyd gan unrhyw awdurdod perthnasol.
Defnyddio’r safle mewn unrhyw ffordd sy’n ymyrryd â’n systemau, defnyddwyr eraill neu sy’n aflonyddu ar, bygwth neu’n niweidio unrhyw un. Byddwch yn ein digolledu rhag ac yn erbyn pob gweithrediadau, hawliad, cwynion, gorchmynion, atebolrwydd, costau neu dreuliau sy’n deillio o, neu’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd, â’r defnydd o’r safle gennych chi neu unrhyw berson arall sy’n defnyddio eich gwybodaeth mewngofnodi.
Defnyddio’r safle i wneud unrhyw neilltuad sbeciannol, ffug neu dwyllodrus neu unrhyw neilltuad mewn disgwyliad am alw.
Perchnogaeth, Hawlfreintiau a Nodau Masnach
Mae’r wefan hon yn cynnwys delweddau, testunau, fformatau ac arddulliau cyflwyno, meddalwedd (gan gynnwys côd HTML) a deunyddiau sy’n analogaidd iddo (“Deunydd”). Mae’r holl hawlfreintiau ac eiddo moesol, perchnogaeth a deallusol sy’n gallu ymgynnal yn y Deunydd neu’n ddeilliadol ohono o dro i dro fod yn eiddo cyfan gwbl neu’n drwyddedig i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Rydych yn cydnabod ein hawliau i’r Deunydd. Fel y’i darperir mewn man arall yn y Telerau hy, ni ddylech gopïo, addasu, trin, trosglwyddo, perfformio, cyhoeddi, arddangos trwydded na chreu gwaith deilliadol o’r Deunydd y ceir mynediad ato trwy’r wefan hon. Lle caniateir copïo neu drosglwyddo yn unig, rhaid i chi arddangos unrhyw athreuliad awdur neu hysbysiad hawlfraint.
Mae’r wefan hon hefyd yn cynnwys nodau masnach penodol (gyda chaniatâd neu wedi gwneud cais amdano), graffig, logos ac enwau gwasanaeth (“Dyfeisiau”). Ni chaniateir copïo’r Dyfeisiau na’u hatgynhyrchu mewn unrhyw fformat (cedwir fel yr hyn a ddarperir mewn man arall yn y Termau), neu eu defnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch neu wasanaeth heb ganiatâd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri neu mewn unrhyw ffordd sy’n debygol o beri dryswch ymysg y cyhoedd, sy’n amharchu neu’n difrïo Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fel is-gwmni. Mae pob nod masnach arall nad ydynt yn eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri neu sy’n gysylltiedig a ymddengys ar y safle hwn yn eiddo i’w perchnogion unigol, a all fod neu all beidio â bod yn gysylltiedig â, yn gysylltiol â, neu wedi eu noddi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri neu rai cysylltiedig.
Cyfrannu eich lluniau
Wrth gyfrannu eich lluniau i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri rydych yn rhoi hawl i ni eu hail gyhoeddi heb dalu breindal, ac i'w defnyddio mewn unrhyw fodd y dymunwn, mewn unrhyw gyfrwng.
Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi eich yn cadw'ch hawlfraint ar y lluniau yr ydych yn eu cyfrannu i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac y byddwn yn ymdrechu i gyhoeddi'ch enw ochr yn ochr â'ch lluniau ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Rydym yn cadw'r hawl i olygu eich sylwadau.
Newidiadau i’r Amodau a’r Telerau Hyn
Gallwn ar unrhyw adeg newid neu addasu’r Termau cyfan hyn neu rannau ohonynt. Wrth bori’r wefan hon rydych yn derbyn eich bod yn rhwym i’r amodau a’r telerau a’r ymwadiadau sy’n gyfredol ar yr adeg hynny, felly dylech wirio’r rhain bob tro y byddwch yn ymweld â’r safle.
Ymwadiadau Atebolrwydd
Rydym wedi cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir gennym ar y wefan hon yn gywir ar yr adeg y byddwch yn edrych arno. Fodd bynnag, ni allwn ac nid ydym wedi gwirio cywirdeb yr holl wybodaeth a ddarparwyd gan ffynonellau allanol na chan ddarparwyr gwybodaeth eraill neu bartïon eraill sydd â chyswllt i neu o’r wefan.
Mae’r holl wybodaeth o’r fath wedi ei ddarparu mewn ysbryd da ac mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n gwrthod atebolrwydd am unrhyw wallau, esgeulustra neu wybodaeth gamarweiniol (oni bai y’i gwneir yn fyrbwyll neu drwy dwyll) i’r graddau mwyaf posib a ganiateir gan y gyfraith, ynghyd â’r holl warantau ymhlyg sy’n gysylltiedig â gwybodaeth o’r fath.
Mae’r wefan hon yn cynnwys hypergysylltiadau i wefannau eraill e.e. safleoedd a gyhoeddwyd gan bartïon amgenach nag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Darperir hypergysylltiadau o’r fath er eich cyfeiriad yn unig. Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryi’n gweithredu safleoedd o’r fath ac felly nid yw’n gyfrifol am eu cynnwys. Hefyd, nid yw cynnwys yr hypergysylltiadau’n awgrymu cefnogaeth i ddeunyddiau ar wefannau o’r fath neu unrhyw gydgysylltiad â’u gweithredwyr.
Os dymunwch sefydlu hypergysylltiad o’ch gwefan i’r wefan hon, neu’n dymuno fframio’r wefan hon neu ran ohono, byddwch angen caniatâd ysgrifenedig gennym. Cysylltwch â Phencadlys yr Awdurdod trwy e-bostio parc@eryri-npa.gov.uk
Nid ydym yn gwarantu neu’n gwneud unrhyw gynrychiolaeth mewn perthynas ag argaeledd y wefan hon ac nid oes gennym unrhyw atebolrwydd i chi os na fydd y wefan hon ar gael ar eich cyfer am unrhyw reswm.
Ni fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri dan unrhyw amgylchiadau’n atebol am unrhyw anaf, colled, hawliad, difrod neu unrhyw ddifrodau damweiniol neu ôl-ddilynol, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i golled mewn elw neu gynilion, sy’n deillio o, neu mewn unrhyw ffordd yn gysylltiedig â'r defnydd o unrhyw ddata neu wasanaethau gwybodaeth a arddangosir ar y safle hwn. Ni fydd hyn yn berthnasol i niwed personol neu farwolaeth uniongyrchol.
Bydd y defnydd o’r wefan hon a’r Termau hyn yn amodol ar gyfreithiau Cymru ac awdurdodaeth llysoedd Cymru.
Os penderfynir bod unrhyw rai o’r termau hyn yn anghyfreithlon, annilys neu fel arall yn anrhagweledig trwy gyfreithiau unrhyw dalaith neu wlad y bwriedir i’r termau hyn fod mewn grym, yna i’r graddau ac o fewn yr awdurdodaeth y bydd y term hwnnw’n anghyfreithlon, annilys neu’n anrhagweledig, bydd yn cael ei wahanu a’i ddileu o’r termau hyn a bydd y termau sy’n weddill yn goroesi, yn parhau mewn grym ac effaith llawn ac yn parhau i fod yn rhwymyn a gorfodol.
Polisi Preifatrwydd
Wrth gofnodi manylion megis enw a chyfeiriad e-bost yn y meysydd gofynnol, rydych yn galluogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’i ddarparwyr gwasanaeth i’ch darparu â’r gwasanaethau y detholwch. Pa bryd bynnag y byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol o’r fath, byddwn yn trin yr wybodaeth honno yn unol â’r polisi hwn.
Defnydd a storio eich gwybodaeth bersonol
Pan fyddwch yn ein darparu ag unrhyw wybodaeth bersonol, er enghraifft ar gyfer cystadlaethau, mae gennym oblygiadau cyfreithiol tuag atoch gyda’r modd y byddwn yn delio â’r data hwnnw. Mae’n rhaid i ni gasglu’r wybodaeth yn deg, hynny yw, mae’n rhaid i ni egluro sut y byddwn yn ei defnyddio (gweler yr hysbysiadau ar dudalennau gwe penodol sy’n eich hysbysu pam ein bod yn gofyn am y wybodaeth) ac yn dweud wrthych os byddwn eisiau anfon y wybodaeth ymlaen i unrhyw un arall. Yn gyffredinol, dim ond Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’i ddarparwyr gwasanaeth fydd yn defnyddio unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu ac ni fydd yn cael ei darparu i unrhyw un y tu allan i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri heb gael eich caniatâd chi yn gyntaf, oni bai ei bod yn ofynnol neu ein bod â chaniatâd i’w datgelu yn ôl y gyfraith.
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol ar ein systemau am yr amser y byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano, ac yn cael gwared â’r wybodaeth os bydd y pwrpas wedi ei gyflawni. Byddwn yn sicrhau bod yr holl wybodaeth bersonol a ddarperir yn cael ei chadw’n ddiogel.
Defnyddwyr 16 oed ac iau
Os ydych yn 16 oed neu iau, gofynnwch am ganiatâd eich rhiant/warcheidwad o flaen llaw pryd bynnag y byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol i wefan Parc Cenedlaethol Eryri. Ni chaniateir i ddefnyddwyr ein darparu â gwybodaeth bersonol heb y caniatâd hwn.
Mynediad at eich gwybodaeth bersonol
Mae gennych hawl i wneud cais am gopi o’r wybodaeth bersonol y mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ei chadw yn eich cylch. Cyfeiriwch geisiadau cysylltiedig â gwefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i:
