SNPA Print Header
Rydych chi yma: Canolfan Astudio >Cyrsiau Cyhoeddus

Canolfan Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch

Cyrsiau Cyhoeddus

Er mwyn gweld manylion ein cyrsiau cyhoeddus, cliciwch yma.

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol i ymuno â'n cyrsiau cyhoeddus, dim ond diddordeb yn y pwnc a pharodrwydd i ddysgu gan diwtoriaid profiadol a brwdfrydig. Rydym yn ffodus iawn fod gennym nifer o arbenigwyr lleol sydd yn medru cyfrannu i’n rhaglen.

Cyrsiau Cyhoeddus Plas Tan y Bwlch

Mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau, ar wahân i’r rhai sydd yn amlwg yn cael eu cynnal dan do, yn cynnwys cerdded ar wahanol lefelau o ymdrech. Gall ein harweinwyr cyrsiau profiadol synhwyro gallu’r aelodau a threfnu’r gweithgaredd yn unol â hynny, gan gymryd mympwyon y tywydd ac amodau eraill i ystyriaeth. Mae rhaglen fanwl y cwrs yn dynodi’r lefel o ffitrwydd sydd ei angen.


Ffïoedd Cyrsiau

Mae’r ffïoedd cyrsiau yn cynnwys llety a’r prydau bwyd, o ginio gyda’r nos
 y diwrnod cyntaf hyd y pecyn bwyd ar y diwrnod ymadael, a’r hyfforddiant a chludiant ar ymweliadau maes. Gall ambell gwrs olygu tâl ychwanegol am fynediad neu deithio ychwanegol, a dangosir hyn yn glir ar raglen y cwrs dan sylw. (Rhaid talu T.A.W. ar y raddfa safonol ar gyrsiau adloniadol.) Am ragor o wybodaeth ynghylch llety, cliciwch yma.

Mae croeso i ymwelwyr di-breswyl ymuno ag unrhyw gwrs am
ran o’r dyddiau neu ddyddiau llawn os oes lle. Y ffi yw £24 y diwrnod a
 phrydau bwyd yn ychwanegol os dymunir.


Archebion

Gellir archebu lle trwy lenwi’r ffurflen archebu swyddogol a’i hanfon gyda blaendal na ellir ei ddychwelyd o £30 y person am gyrsiau o 4 diwrnod neu fwy a £15 am gyrsiau byrrach (sieciau yn daladwy i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri). Byddwch yn derbyn gair i gydnabod derbyn eich archeb a rhaglen y cwrs.  Bydd gweddill tâl y cwrs yn daladwy chwech wythnos cyn ei ddechrau.  


Telerau Canslo

Mae angen blaendal o naill ai £15.00 neu £30.00 nas dychwelir i archebu lle. Os bydd angen canslo yna fe godir y ffioedd canlynol:

  • • tynnu’n ôl mwy na 6 wythnos cyn y cwrs: blaendal yn unig
  • • tynnu’n ôl rhwng 6 a 4 wythnos cyn y cwrs: 60% o gost y cwrs
  • • tynnu’n ôl llai na 4 wythnos cyn y cwrs: 80% o gost y cwrs
  • • peidio cyrraedd neu adael cyn i'r cwrs orffen - y gost lawn.

Argymhellwn eich bod yn trefnu eich yswiriant canslo gwyliau eich hun. Os bydd rhaid i ni ganslo’r cwrs rhoddir gwybod i chi mewn da bryd a dychwelir y ffioedd a’r blaendal yn llawn.


Gostyngiadau

Mae’r gostyngiadau canlynol ar gael, dan yr amodau nodir isod:-

  • • £20.00 oddi ar gyrsiau hyd at 3 diwrnod
  • • £50.00 oddi ar gyrsiau 4 diwrnod neu fwy
  • • Ail Ymweliad - mae hwn ar gael ar eich ail ymweliad preswyl a’r rhai dilynol ar gwrs cyhoeddus a hysbysebir yn y pamffled hwn rhwng 1 Ebrill 2010 a 31 Mawrth 2011.
  • Cyflwyno ffrind - i fod yn gymwys, dewch â ffrind, sydd heb fod ar gwrs o’r blaen, ar unrhyw gwrs preswyl yn y rhaglen hon. Anfonwch ffurflen archebu eich ffrind gyda’ch un chi.

I hawlio unrhyw un ticiwch y blwch priodol ar gefn eich ffurflen archebu.


Cyrsiau Dydd
Mae cyfres newydd o gyrsiau yn ymdrin â phynciau fel Teithiau Treftadaeth, Byw’n Iach a Newid Hinsawdd yn cael eu trefnu yn ystod y flwyddyn nesaf. Bydd mwy o wybodaeth i ddilyn yn fuan.


Gweithgareddau Eraill

Mae croeso i Grwpiau a Chymdeithasau Annibynnol ddefnyddio Plas Tan y Bwlch fel canolfan i’w gweithgareddau. Gall staff y Ganolfan
gynllunio cyrsiau a bod yn diwtoriaid arnynt yn ôl gofynion y grwpiau.

Gall grwpiau Addysgiadol o ysgolion, colegau a phrifysgolion drefnu i ddefnyddio’r Ganolfan gyda’n staff arbenigol neu hebddynt. Dylid cyfeirio ymholiadau am agweddau penodol y Parc Cenedlaethol i’r Adran Addysg  ym Mhlas Tan y Bwlch.


Cyrsiau Proffesiynol

Trefnir cyrsiau proffesiynol ar gyfer staff cefn gwlad gan y Ganolfan. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Er mwyn gweld manylion ein cyrsiau cyhoeddus, cliciwch yma.

Lawriwytho ffurflen Plas Tan y Bwlch Hyfforddiant Cyhoeddus

Cliciwch i weld y llyfryn diweddaraf ar Gyrsiau Cyhoeddus.

Cyrsiau Cyhoeddus
Logo CSE
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk