
Dyddiad: 6 - 8 Chwefror 2012
Pris: £150
Cymorthdaledig gan Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a DEFRA.
Rhif y Cwrs: C/03
Trefnwyr y Cwrs:
Conor Kretsch, Menter Gydweithredu ar Iechyd a Bioamrywiaeth (CoHaB) a Julia Korn, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru a Charlie Falzon Partneriaeth Hyfforddiant Cefn Gwlad..
Cydlynu/Logisteg:
Twm Elias a Beth Cluer, Plas Tan y Bwlch.
Caiff y cwrs ei gefnogi gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Menter CoHaB.
Yn 2010, methodd y DU a gwledydd eraill ledled yr Undeb Ewropeaidd â chyrraedd targed yr Undeb Ewropeaidd i atal colli bioamrywiaeth.
Mewn cyfnodau o risg ac adfyd, mae yna gyfle i ddatblygu ein gallu i ymdopi â newid, ac addasu iddo, trwy ymdrechu gyda’n gilydd i werthfawrogi bioamrywiaeth, ecosystemau a’r buddion a ddaw yn eu sgil.
Yn 2010, cyhoeddodd menter ryngwladol The Economics of Ecosystems and Biodiversity (TEEB) adroddiad terfynol sy’n dangos fod y buddion a ddaw yn sgil gwarchod ecosystemau a bioamrywiaeth yn llawer mwy na’r gost a ddaw wrth weld eu dinistrio.
Bydd y cwrs hwn yn trafod pa mor berthnasol yw ecosystemau a bioamrywiaeth i wahanol sectorau, gan archwilio’r wybodaeth a’r offer sydd ar gael er mwyn rhoi egwyddor ecosystem ar waith.
Nodau:
Gan gyfeirio at ystod eang o astudiaethau achos byddwn yn trafod pa mor bwysig yw ecosystemau a’r nwyddau/gwasanaethau a ddaw i ran yr economi a’r gymdeithas yn eu sgil, gan gynnwys ein hiechyd a’n lles; bwrw golwg dros bolisïau a chynlluniau perthnasol.
Amcanion y Cwrs:
• Trafod pa mor bwysig yw bioamrywiaeth ac ecosystemau i’r economi a’r gymdeithas.
• Trafod sut y gellir ymdrin â nwyddau/gwasanaethau ecosystemau prif ffrwd mewn meysydd nad ydynt yn ymwneud â’r amgylchedd, yn arbennig datblygu economaidd / mentrau, datblygu cymdeithasol ac iechyd y cyhoedd.
• Trafod dulliau newydd o reoli tir, dŵr ac adnoddau byw a all fod o fudd i fusnesau a chymunedau, gan gynorthwyo i gyflawni ymrwymiadau’r Deyrnas Unedig dan dargedau a chytundebau’r Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig
Ar Gyfer Pwy?:
Y rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn awdurdodau cyhoeddus, y gymuned fusnes a Sefydliadau Anllywodraethol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.
Trefn y Cwrs
Dydd Llun, Chwefror 6ed
11:00 Cyrraedd a Chofrestru
11:30 Croeso i’r Plas: Twm Elias, Plas Tan y Bwlch.
12:00 Cinio
13:00 Beth yw’r ystyr ‘lleihau risgau’: Conor Kretsch-CoHAB.
13:25 Diweddariad Ymchwil Gwasanaethau Ecosystemau: Shaun Russell
13:50 Cyflwyniad i’r gwaith maes: Julia Korn, CCGC
14:00 Ymadael am Lyn Tegid
14:30 Cyrraedd:Cyfle i weld y cymhlethdodau, cyfleon a sialensau wrth reoli’r llyn
17:30 Troi am adre
18:00 Cyrraedd yn ôl.
19:00 Cinio nos
Dydd Mawrth, Chwefror 7fed
08:15 Brecwast (yr un amser bob dydd).
09:00 Sesiwn ryngweithiol – Bioamrywiaeth, Ecosystemau a lles dynol yn y DU
10:00 Cyfraniad gwasanaethau ecosystemau i iechyd meddwl: Carly Wood,
10:30 Newid ecosystemau ac ymddangosiad a llediad afiechydon heintus: Cymdeithas Swolegol Llundain.
11:00 Coffi
11:30 Astudiaeth achos – strwythurau gwyrdd trefol a’r budd i les a iechyd: Peter Frost
12:00 Trafodaeth banel.
12:30 Cinio
13:30 Cynllunio gofodol a gwasanaethau ecosystemau – gwneud y cysylltiad: Charlie Falzon
14:00 Cyflwyno’r cyswllt rhwng cynllunio cadarnhaol ar gyfer yr amgylchedd a iechyd y cyhoedd:
14:30 HLles dynol - Conor Kretsch
15:00 Coffi
15:30 Astudiaeth achos – cynllunio trefol cynaladwy ar gyfer iechyd a lles pobl: Gary Grant
16:00 Sesiwn grafu pen ac adrodd yn ôl-Charlie Faizon
17:15 Diwedd
18:30 Cinio Nos
20:00 Sesiwn ryngweithiol ar ddiwylliant, amgylchedd a chelf: Shelagh Hourahane - Creu-Ad Consultant
Mercher, Chwefror 8fed
08:15 Brecwast (yr un amser bob dydd)
09:00 Rhoi barn ar werth: agweddau ar werthuso bioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystemau : Conor Kretsch.
09:45 Gwerth economaidd bioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystemau: Mark Everard-Defra
10:30 Coffi
11:00 Astudiaeth Achos 1: Natur a Mineralau – Safbwynt Diwydiant;
11:30 Astudiaeth Achos 2: Natur wedi Mineralau: RSPB
12:00 Cinio
13:00 Newid hinsawdd a bioamrywiaeth, ymateb cydweithiol-RSPB.
13:30 Mynd I’r afael â chynllunio gofodol yn gyfranogol drwy offer gweladwy: Tim Pagella.
14:00 Sesiwn ola – ‘Be ydan ni wedi ddysgu?’ Sut y gallwn ddefnyddio hyn? - Charlie Faizon
15:30 Crynhoi: Shaun Russell
15:45 Te/Coffi - diwedd