
Mae’r Gwasanaeth Cynllunio wedi’i ymrwymo i gynnig Gwasanaeth Rheolaeth Datblygu a Chydymffurfiaeth effeithiol ac effeithlon a chyfrannu mewn modd proffesiynol a diduedd at gyflawni cynigion datblygu o ansawdd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Rhaid cael caniatâd cynllunio ar gyfer gwaith adeiladu (megis tai newydd neu estyniadau), ar gyfer gwaith peirianneg (megis ffyrdd neu chwareli) ac ar gyfer newid defnydd hanfodol (megis newid cae yn faes carafanau). Mae caniatâd cyffredinol yn bodoli ar gyfer rhai mathau o ddatblygiad gan gynnwys rhai estyniadau tai.
A fyddech cystal â chysylltu â’r Adran Rheolaeth Datblygu a Chydymffurfiaeth os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch datblygiadau yn y Parc Cenedlaethol neu ynghylch eich hawliau sydd a wnelo ‘datblygiad a ganiateir’.
Siarter Cwsmeriaid i wasanaeth Rheoli Datblygu a Chydymffurfiaeth
Bwriad y siarter yw rhoi dealltwriaeth glir o lefel o wasanaeth y dylech ei disgwyl gan yr Adran Rheolaeth Datblygu a Chydymffurfiaeth.

