
Cafodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol y cyfrifoldeb dros gynllunio mwynau a gwastraff ym 1996.
Mwynau
Mae yna ddigon o adnoddau mwynau yn y Parc Cenedlaethol fel llechi, cerrig caled ac amrywiaeth o fetelau, gan gynnwys aur. Fodd bynnag mae angen cydbwyso’r galw am yr adnoddau hyn gyda’r angen i warchod Eryri rhag gweithrediadau cloddio a chwarelu a fyddai’n achosi niwed hir dymor i gymeriad tirwedd ac amgylchedd y Parc Cenedlaethol. I’r perwyl hwn mae polisi cynllunio yn adlewyrchu’r arweiniad cenedlaethol sy’n nodi y dylai cynigion sydd a wnelo echdynnu mwynau mewn Parciau Cenedlaethol gael eu hastudio’n fanwl iawn.
Gwastraff
Dim ond pan ddefnyddir adnoddau a deunyddiau yn ddoeth y gellir cyflawni datblygiad cynaladwy. Mae lleihau faint o wastraff sy’n mynd i’r safleoedd tirlenwi trwy ei ail-ddefnyddio a’i ailgylchu yn ogystal ag adfer deunyddiau ac ynni yn help i gyflawni hyn.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi cyfrannu tuag at gynhyrchu Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru sy’n gosod cynllun penodedig i ddatblygu rhwydwaith o gyfleusterau er mwyn sicrhau fod gwastraff yn cael ei reoli’n gynaladwy yn y rhanbarth.
Cynllun Gwastraff Rhanbarthol
Yn y gorffennol roedd Cymru yn dibynnu ar dirlenwi i gael gwared o wastraff tai, masnach a diwydiant. Mae llawer o'r gwastraff yn addas i gael ei ailgylchu, ei ail defnyddio, compostio neu ei adfer fel defnyddiau ac egni gwerthfawr. Mae targedau statudol ar gael i Brydain, Ewrop ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru fel bod pob Awdurdod Lleol yn lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Er mwyn gwneud hyn rydym angen nifer o gyfleusterau newydd ar draws Gogledd Cymru.
Mae'r arolwg cyntaf o gynlluniau gwastraff rhanbarthol 2004 ar y gweill. Bydd yr arolwg hwn yn gyfle i bawb gymryd rhan yn y penderfyniadau am dechnoleg gwastraff sydd ar gael a hefyd canfod lleoliadau addas i'w gosod.
