
Mae Canllawiau Cynllunio Atodol yn darparu manylion pellach i gefnogi Cynllun Datblygu Lleol Eryri ac yn rhoi arweiniad ynglyn a sut fydd yr Awdurdod Cynllunio yn ymdrin a cheisiadau Cynllunio. Bydd y dogfennau canllaw hyn yn cael eu defnyddio gan yr Awdurdod wrth wneud penderfyniadau ac maent yn ystyriaeth berthnasol.
Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol canlynol wedi cael eu mabwysiadu yn dilyn mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Eryri:
Dyluniad Cynaliadwy yn y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru
Ystyriaethau Datblygu Cyffredinol
Cadwraeth Natur a Bioamrywiaeth
Bu'r Canllawiau Cynllunio Atodol hyn yn destun Ymgynghoriad Cyhoeddus rhwng Tachwedd 11eg 2011 a Ionawr 9fed 2012.
Unwaith bydd yr Awdurdod wedi ystyried yr ymatebion sydd wedi dod i law, bydd Parc Cenedlaethol Eryri'n eu cymeradwyo'n ffurfiol ac yn cyhoeddi'r canllawiau ar ei ffurf terfynol gan gynnwys unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt. Wedi hynny, fe fydd y Canllawiau Cynllunio Atodol yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.
