SNPA Print Header
Rydych chi yma: Cynllunio > Pwyllgorau Cynllunio >Cyflwyno Apêl

Cyflwyno Apêl

Os byddwn yn gwrthod rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer eich cais, fe fyddwch bob amser yn cael esboniad ysgrifenedig o’n rhesymau dros wneud hynny.

Os yw’r rhesymau hynny’n aneglur yn eich barn chi, mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod y mater. Ar ôl trafod y materion sy’n codi, efallai y gwelwch ei bod yn bosibl addasu eich cais gwreiddiol a’i ailgyflwyno. Cewch wneud hynny cyn pen blwyddyn o ddyddiad gwrthod y cais, ac yn y mwyafrif o achosion ni fydd yn golygu talu ffi ychwanegol.


Fy hawl i gyflwyno apêl

Os gwrthodir eich cais cynllunio neu os caniateir y cais gydag amodau sy’n amhriodol yn eich barn chi, gallwch gyflwyno apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd gennych chwe mis o ddyddiad y rhybudd penderfynu a anfonwyd atoch i wneud hynny.


Beth ddylwn i ei ystyried?

Wrth benderfynu a ydych am wneud apêl ai peidio, fe ddylech gofio bod y tebygolrwydd o lwyddo mewn apêl yn dibynnu ar rinweddau eich cais a sut mae’n cyd-fynd â pholisïau lleol a chenedlaethol. Nid yw’n debygol yr ystyrir bod eich amgylchiadau personol yn bwysicach nag unrhyw ystyriaethau cynllunio sylweddol.

Seilir ein penderfyniadau cynllunio ar bolisïau Cynllun Lleol Eryri yn bennaf, sef y cynllun datblygu ar gyfer y Parc Cenedlaethol cyfan. Un ffactor pwysig y bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ei ystyried yw p’un ai yw eich cais yn groes i bolisïau’r Cynllun hwnnw ai peidio.

Mae yna hefyd polisiau a weithredir yn genedlaethol. Byddir hefyd yn ystyried p’un a yw eich cais yn cydymffurfio â’r rheiny.

The Snowdonia National Park Authority has 18 members, 9 Local Councillors appointed by Gwynedd Council, 3 Local Councillors appointed by Conwy County Borough Council, and 6 members appointed by the Welsh Assembly Government.


Sut ydw i’n cyflwyno apêl?

Er mwyn gwneud apêl dilys, bydd rhaid i chi ddefnyddio ffurflen swyddogol, sydd ar gael gan yr Arolygiaeth Gynllunio, Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Sut fydd yr apêl yn cael ei gynnal?

Ymdrinnir ag oddeutu 80% o apeliadau o dan y weithdrefn ysgrifenedig. Penderfynir ar y cais ar sail yr wybodaeth a gyfnewidir yn ysgrifenedig rhyngom ni a chi. Dyma’r ffordd gyflymaf a rhataf o gyflwyno apêl.

Ymdrinnir â nifer fach o apeliadau mewn gwrandawiad neu ymchwiliad. Bydd cynnal ymchwiliad yn golygu treulio mwy o amser ac arian ar yr achos, ond bydd yn gyfle i chi herio unrhyw dystiolaeth wyneb yn wyneb.

Am ragor o wybodaeth i’ch helpu i benderfynu p’un a yw cyflwyno apêl yn briodol ai peidio, gweler llyfryn yr Arolygiaeth Gynllunio ‘Gwneud eich apêl gynllunio’, sydd ar gael yn nerbynfa ein pencadlys. Mae’r llyfryn yn esbonio’r broses lawn yn fanwl.


Beth ddylwn ei wneud os wyf yn dymuno cwyno am y gwasanaeth a gefais?

Mae gennym drefn gwyno fewnol y gallwch ei defnyddio. Nid oes rhaid i chi ddisgwyl i benderfyniad gael ei wneud ar eich cais cyn cwyno, mae’n bosibl i chi wneud hynny ar unrhyw adeg.


Am ragor o wybodaeth
cysylltwch â Gwasanaeth Gynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Plas Tan y Bwlch
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk