SNPA Print Header
Rydych chi yma: Cynllunio >Pwyllgorau Cynllunio

Pwyllgorau Cynllunio

Pwy sy’n eistedd ar y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad?
Mae 18 Aelod yn perthyn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac maent hwy oll yn eistedd ar y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad (mae manylion pob aelod ar wefan yr Awdurdod). Mae un Aelod yn gweithredu fel Cadeirydd y cyfarfod. Bydd y Swyddogion Cyfreithiol a Chynllunio yno.


Pa mor aml mae’r Pwyllgor yn cyfarfod?
Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod unwaith y mis fel rheol, a hynny ar ddydd Mercher.

Lleoliad - Plas Tan y Bwlch, Maentwrog

  • 22ain o Fehefin 2011 am 10.00 y.b.
  • 27ain o Orffennaf 2011 am 10.00 y.b.
  • 7fed o Fedi 2011 am 10.00 y.b.
  • 5ed o Hydref 2011 am 10.00 y.b.
  • 9fed o Dachwedd 2011 am 10.00 y.b.
  • 14eg o Rhagfyr 2011 am 10.00 y.b.
  • 25ain o Ionawr 2012 am 10.00 y.b.
  • 22ain o Chwefror 2012 am 10.00 y.b.
  • 21ain o Fawrth 2012 am 10.00 y.b.
  • 25ain o Ebrill 2012 am 10.00 y.b.
  • 20fed o Fehefin 2012 am 10.00 y.b.


Beth sy’n digwydd cyn y Pwyllgor?
Mae rhaglen yn cael ei chyhoeddi tri diwrnod cyn cyfarfod y Pwyllgor, sy’n cynnwys adroddiad ar bob un o’r ceisiadau cynllunio a fydd yn cael eu hystyried. Mae’r adroddiadau unigol yn cael eu paratoi gan y swyddog cynllunio sy’n ymdrin â’r cais penodol hwnnw. Bydd yr adroddiad Cynllunio’n nodi:

  • manylion y cais
  • crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau neu gefnogaeth a gafwyd
  • asesiad o’r cynnig gan roi ystyriaeth i’r cynrychioliadau hyn yn ogystal â Chynllun Lleol Eryri
  • argymhelliad yn nodi a ddylid gwrthod y cais ynteu ei gymeradwyo.


A yw’r rhaglenni a’r adroddiadau ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio?
Ydynt, ar y wefan yma, ym mhencadlys yr Awdurdod, llyfrgelloedd cyhoeddus, trwy’r Cynghorau Cymuned a lleoliadau eraill. Petaech yn dymuno gweld adroddiad neu fynychu cyfarfod, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â phencadlys yr Awdurdod i gadarnhau’r dyddiad y bydd y cais yn cael ei ystyried.


Yng Nghyfarfod y Pwyllgor
Cewch fynychu unrhyw gyfarfod o’r Pwyllgor fel arsyllwr. Mae croeso i chi hefyd wneud cais i siarad yn y cyfarfod yn unol â’r canllawiau a nodir yn y daflen Siarad yn Gyhoeddus. Cynhelir holl gyfarfodydd y Pwyllgor trwy gyfrwng y Gymraeg ac fe ddarperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg.


Bydd y drafodaeth ar y ceisiadau’n dilyn y drefn a ganlyn:
Bydd y Cadeirydd yn datgan y cais

Bydd swyddog cynllunio’n cyflwyno’r cais i Aelodau’r Pwyllgor ac yn adrodd am unrhyw wybodaeth ychwanegol a ddaeth i law

  • Gwrthwynebydd i annerch y Pwyllgor
  • Cyngor Cymuned i annerch y Pwyllgor
  • Ymgeisydd / Asiant / Cefnogwr i annerch y Pwyllgor
  • Cwestiynau’r Aelodau a thrafodaeth
  • Cynnig
  • Unrhyw newid
  • Pleidlais.


Pa benderfyniadau all y Pwyllgor eu gwneud?
Bydd y Pwyllgor yn gwneud un o’r penderfyniadau a ganlyn fel rheol mewn perthynas â cheisiadau a roddir ger eu bron:

  • caniatáu gydag/heb amodau
  • gwrthod (gyda rheswm dros wrthod)
  • gohirio er mwyn cynnal Ymweliad Safle
  • gohirio er mwyn trafod
  • gohirio nes ceir rhagor o wybodaeth.


A yw’n bosibl i’r Pwyllgor wneud penderfyniad sy’n groes i argymhelliad y Swyddog?
Ydi, mae gan y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad yr hawl i wneud penderfyniad sy’n groes i argymhelliad y swyddog cynllunio, ni waeth os yw hynny ar gyfer gwrthod neu ganiatáu’r cais.

Plas Tan y Bwlch
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk