SNPA Print Header
Rydych chi yma: Cynllunio >Chwilio Ceisiadau Cynllunio

Chwilio Ceisiadau Cynllunio

Croeso i Wasanaeth Ceisiadau Cynllunio Ar-Lein Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

O ganlyniad i broblemau technegol nid yw ein cyfleuster chwilio Ceisiadau Cynllunio ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Rydym yn gwneud ein gorau glas i geisio cywiro'r broblem ac yn gobeithio y bydd y fersiwn Gymraeg yn ôl ar-lein yn fuan iawn.

Cyn defnyddio’r rhan hon o’n gwefan, a fyddech gystal â darllen y wybodaeth isod ynglyn â mynediad y cyhoedd at wybodaeth gynllunio. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglyn â defnyddio’r wefan hon, cysylltwch â’r Awdurdod gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar y Dudalen Cysylltiadau Cynllunio.

Mae’r Gwasanaeth Cynllunio Ar-Lein yn eich galluogi i:

  • Chwilio am geisiadau cynllunio trwy feini prawf amrywiol megis cyfeiriad, dyddiad a math
  • Edrych ar fanylion ceisiadau cynllunio
  • Cael golwg ar statws cais cynllunio
  • Edrych ar ddogfennau sy’n berthnasol i geisiadau
  • A fyddech cystal â chaniatáu am amrywiadau sillafu a byrfoddau os ydych yn rhoi testun yn y porwr. Caiff y system ei diweddaru dros nos yn ddyddiol.

Rhybudd Hawlfraint

Mae cynlluniau, darluniau a deunyddiau a gyflwynwyd i’r Awdurdod wedi’u diogelu dan y Deddfau Hawlfraint (Adran 47, Deddf 1988). Cewch lawrlwytho a/neu argraffu deunyddiau at ddibenion ymgynghori yn unig, i gymharu ceisiadau cyfredol â chynlluniau blaenorol ac i edrych p’un a gwblhawyd datblygiadau yn unol â’r cynlluniau cymeradwy. Ni ddylid gwneud copïau ychwanegol heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint ymlaen llaw.

Os ydych yn cytuno â’r rhybudd hawlfraint uchod ac yn dymuno cael golwg ar ein cyfleuster chwilio am geisiadau cynllunio ar-lein, cliciwch ar y linc isod.

Beddgelert
Bala
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk