SNPA Print Header
Rydych chi yma: Cynllunio >Cyngor cynllunio

Cyngor cynllunio

Yn gyffredinol, bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio i newid neu ychwanegu at strwythur adeilad. Fe welwch isod rai canllawiau syml fydd yn eich cynorthwyo i benderfynu a ydynt yn berthnasol i chi. Nid yw’r canllawiau a nodir yma’n ddehongliad awdurdodol o’r gyfraith.

Canllawiau yn unig yw'r cyngor a roddir yma. Os ydych yn ansicr a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith yr ydych yn bwriadu’i wneud, fe ddylech ofyn am gyngor gan ein gwasanaeth gynllunio. Os ydych yn adeiladu neu’n addasu adeilad heb i chi gael caniatâd yn gyntaf, fe all fod y cewch chi eich gorfodi i wneud pethau’n iawn yn ddiweddarach, neu hyd yn oed gael gwared ar y gwaith, a all fod yn gostus iawn.

  • Nodwch fod y canllawiau hyn yn berthnasol i dai yn y Parc Cenedlaethol.
  • (Mae’r term priffordd yn cynnwys pob ffordd gyhoeddus, llwybr troed, llwybr ceffylau a chilffordd gyhoeddus).
  • (Ystyr y term ty gwreiddiol yw’r ty fel yr adeiladwyd ef gyntaf neu fel yr oedd ar 1 Gorffennaf 1948).
  • Caiff y cyfaint ei gyfrifo yn ôl y mesuriadau allanol.

Estyniadau

Lleoliad – Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os yw’r ychwanegiad arfaethedig yn llai na 20 metr i ffwrdd o’r briffordd agosaf neu’n agosach at y briffordd honno na rhan agosaf y ty gwreiddiol.

Uchder - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os yw’r estyniad yn uwch na rhan uchaf y ty gwreiddiol, neu’n fwy na 4 metr o uchder ac o fewn 2 fetr i ffin y ty gwreiddiol.

Cyfaint - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os byddai cynnydd o 10% neu 50 metr ciwbig, p’un bynnag yw’r mwyaf, yng nghyfaint y ty gwreiddiol.

Caiff unrhyw adeiladau megis garejys ayb sy’n fwy na 10 metr ciwbig o ran cyfaint, ble bynnag y maent mewn perthynas â’r ty, eu trin fel estyniadau i’r ty ac o’r herwydd mae’n lleihau faint a ganiateir ar gyfer estyniadau pellach.

Estyniadau i’r To, Trosi Llofftydd a Ffenestri Dormer - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os ydych am adeiladu estyniad neu addasu adeilad a fyddai’n newid siâp y to yn sylweddol.

Adeiladau a Strwythurau Eraill

Siediau gardd, garejys, tai gwydr, tai haf, pyllau nofio, cabanau sawna, pyllau dwr, llety i anifeiliaid anwes neu anifeiliaid domestig, llociau (gan gynnwys cyrtiau tenis) ayb.

Lleoliad - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os byddai’r strwythur yn agosach at briffordd gyhoeddus nag unrhyw ran o’r ty gwreiddiol, oni bai ei fod o leiaf 20 metr i ffwrdd.

Arwynebedd - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os byddai’r strwythur yn gorchuddio mwy na 50% o arwynebedd y tir o amgylch y ty gwreiddiol.

Defnydd - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os byddai’r strwythur yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion masnachol (e.e. lle parcio i gerbyd masnachol).

Uchder - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os byddai’r strwythur yn fwy na 3 metr o uchder, neu 4 metr o uchder os oes ganddo do crib.

Cyfaint - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os byddai gan y strwythur gyfaint o dros 10 metr ciwbig.

* Nodwch: Os oes gan y strwythur gyfaint o dros 10 metr ciwbig ac y byddai o fewn 5 metr i’r ty gwreiddiol, byddai’n cael ei drin fel estyniad ac yn cyfrif yn erbyn eich hawl cyfaint cyffredinol.

Tanciau Storio Tanwydd

Cynhwysedd - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os byddai’r tanc storio yn dal mwy na 3,500 litr.

Uchder - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os byddai’r tanc storio’n fwy na 3 metr uwchlaw lefel y ddaear.

Lleoliad - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os byddai’r tanc storio yn agosach at briffordd gyhoeddus nag unrhyw ran o’r ty gwreiddiol oni bai ei fod o leiaf 20 metr i ffwrdd.

Math o Danwydd - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os byddai’r tanc storio yn cael ei ddefnyddio i storio nwy petroliwm hylif (LPG) neu unrhyw danwydd arall heblaw olew.

Pyrth

Arwynebedd - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os byddai’r porth yn fwy na 3 metr sgwâr.

Uchder - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os byddai’r porth yn fwy na 3 metr uwchlaw lefel y ddaear.

Lleoliad - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os byddai’r porth yn llai na 2 fetr i ffwrdd o ffin ty annedd neu briffordd.

Ffensys, Gwrychoedd, Waliau a Choed

Adeiladau Rhestredig - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os yw’r strwythur yng nghwrtil adeilad rhestredig.

Uchder - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os byddai’r strwythur dros 1 metr o uchder ac yn nesaf at briffordd a ddefnyddir ar gyfer cerbydau, neu dros 2 fetr o uchder mewn mannau eraill.

Gwrychoedd a Choed - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os oes amod ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio ar gyfer eich eiddo sy’n cyfyngu ar blannu gwrychoedd neu goed.

Patios, Lleiniau Caled, Llwybrau a Dreifiau

Codi Arglawdd neu Deras - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os oes angen codi arglawdd uchel neu greu terasau ar raddfa fawr.

Defnydd - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os byddai’n cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol (e.e. lle parcio i gerbyd masnachol).

Mynediad - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os ydych am wneud mynedfa newydd neu letach i gefnffordd neu ffordd ddosbarthiadol arall.

Priffyrdd – Bydd rhaid i chi sicrhau cymeradwyaeth arbennig gan eich adran briffyrdd leol os byddai’n croesi palmant neu lain ymyl.

Dysglau Lloeren, Erialau Teledu a Radio

Erialau Teledu a Radio domestig cyffredin – nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y rhain.

Adeiladau Rhestredig – Bydd angen i chi gael caniatâd adeilad rhestredig os yw’r adeilad yn un rhestredig.

Ardaloedd Cadwraeth - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio os yw’r adeilad mewn ardal gadwraeth.

Addurno, Trwsio a Chynnal a Chadw

Gwaith Trwsio neu Gynnal a Chadw - nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y rhain.

Mân Welliannau - nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y rhain e.e. peintio eich ty neu roi ffenestri newydd.

Addasiadau Mewnol - nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y rhain.

Gosod Ffenestri neu Ffenestri To - nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y rhain oni bai mai ffenestri dormer ydynt neu os ydych am roi ffenestri bae newydd, a gaiff eu trin fel estyniad.

Cladin - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio cyn gorchuddio’r tu allan i adeilad â charreg, carreg artiffisial, coed neu blastig ayb.

Adeiladau Rhestredig – Bydd angen i chi gael caniatâd adeilad rhestredig ym mhob achos os yw’r adeilad yn un rhestredig.

Ardaloedd Cadwraeth - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio ym mhob achos os yw’r adeilad mewn ardal gadwraeth.

Dymchwel Adeiladau

* nodwch – os ydych yn dymchwel adeilad, hyd yn oed un sydd wedi’i ddifrodi gan dân, nid yw’n dilyn yn awtomatig y cewch ganiatâd cynllunio i adeiladu un arall yn ei le.

Maint – Nid oes angen i chi gael caniatâd cynllunio i ddymchwel adeilad megis garej neu sied sy’n llai na 50 metr ciwbig.

Iechyd a Diogelwch - Nid oes angen i chi gael caniatâd cynllunio i ddymchwel adeilad fel mater o frys oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch.

Deddfwriaeth Arall - Nid oes angen i chi gael caniatâd cynllunio os oes angen dymchwel adeilad o dan ddeddfwriaeth arall.

Ailddatblygu - Nid oes angen i chi gael caniatâd cynllunio i ddymchwel adeilad ar dir sydd wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer ailddatblygu.

Llociau - Nid oes angen i chi gael caniatâd cynllunio i ddymchwel giât, ffens, wal neu fath arall o amgaead.

Adeiladau Rhestredig - Bydd angen i chi gael caniatâd adeilad rhestredig ym mhob achos os yw’r adeilad yn un rhestredig.

Ardaloedd Cadwraeth - Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio ym mhob achos os yw’r adeilad mewn ardal gadwraeth.


Am gyngor pellach, cysylltwch ag un o’n Swyddogion Cynllunio:

Y Gogledd:
Richard Thomas (01766 772211)
e-bost: richard.thomas@eryri-npa.gov.uk

Y Canol: Aled Lloyd (01766 772212)
e-bost: aled.lloyd@eryri-npa.gov.uk

Y De: Huw Roberts (01766) 772214)
e-bost: huw.roberts@eryri-npa.gov.uk

Adeilad Newydd Penmaenpool
Trosi Ysgubor
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk