SNPA Print Header
Rydych chi yma: Cynllunio >Newyddion

Newyddion

Llanbedr Awst 2011

Cyflwynwyd y cais (Rhif cais NP5/62/LU372) am Dystysgrif Defnydd Cyfreithiol ar y 24ain Rhagfyr 2010 gan Lywodraeth Cymru.

Nid cais cynllunio ydi hwn ond yn hytrach cais i benderfynu beth yw defnydd cyfreithiol y safle. Yn hyn o beth mater o ystyried tystiolaeth gyfreithiol yn unig yw’r cais h.y. nid rhywbeth i’w ystyried yng nghyd-destun polisi cynllunio ydi Tystysgrif Defnydd Cyfreithiol ond mater cyfreithiol sy’n llwyddo neu’n methu ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd.

Hyd yma, nid yw’r Awdurdod wedi derbyn nac ystyried unrhyw geisiadau cynllunio gan yr ymgeisydd.

Oherwydd hanes y safle a natur y cais fe aethpwyd ati i gael cyngor Bargyfreithiwr. Derbyniwyd cyngor cyfreithiol. Ar ol rhoi ystyriaeth i’r holl ddogfennau perthnasol gan gynnwys y farn gyfreithiol a chael ymweld a’r safle rhoddwyd Tystysgrif Defnydd Cyfreithiol ar y 29 Gorffennaf 2011 i’r defnydd canlynol:

“Defnydd o’r safle (wedi’i ymylu’n goch ar y cynllun atodol) at waith Ymchwil a Datblygu i arbrofi, gwerthuso a datblygu cerbydau awyrol di-griw (CAG)”

Cais am Dystysgrifau Defnydd Cyfreithiol sydd wedi ei benderfynu. Nid yw hyn yn arwydd o safiad yr Awdurdod o blaid nac yn erbyn priodoldeb unrhyw fath o ddatblygiad ar y safle yn Llanbedr yn y dyfodol.

Mae’r wybodaeth ganlynol ar gael ar wefan yr Awdurdod trwy fynd i 'Ceisiadau Cynllunio' a chwilio'r 'Ceisiadau Cynllunio Ar-lein' gan ddefnyddio'r Rhif Cyfeirnod NP/62/LU372:

1. Y cais ar holl ddogfennau
2. Y dystysgrif penderfyniad
3. Y farn gyfreithiol

Mae'r Awdurdod wedi cyhoeddi barn terfynol y bargyfreithiwr yn llawn yn 'Y Farn Gyfreithiol' uchod.

Swyddfa Parc Cenedlaethol Eryri
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk