SNPA Print Header
Rydych chi yma: Cynllunio >Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin


Sut ydw i’n mynd ati i wneud cais cynllunio?

Gallwch wneud cais mewn tair ffordd, ar-lein trwy ymweld â gwefan y Porth Cynllunio, trwy lawrlwytho ffurflen gais neu drwy ofyn am ffurflen gais dros y ffôn. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Faint fydd fy nghais cynllunio yn ei gostio?

Fe allwch un ai gael golwg ar ein tudalen Ffioedd Cynllunio ar y safle hwn neu gysylltu â Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol a siarad ag un o’n staff er mwyn cael arweiniad.


Pryd a lle y cynhelir y pwyllgorau cynllunio’

Mae Pwyllgor Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cyfarfod ym Mhlas Tan y Bwlch ar ddechrau bob mis. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Sut alla i ddilyn cynnydd fy nghais?

Gallwch ddilyn cynnydd eich cais trwy fewngofnodi ar ein cyfleuster Dilyn a Darganfod ar-lein. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Sut ydw i’n mynd ati i wneud sylwadau ar gais cynllunio?

Fe allwch wneud sylwadau ar gais un ai trwy gysylltu â Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol neu trwy ddefnyddio ein cyfleuster Dilyn a Darganfod ar-lein. Rhoddir ystyriaeth i’ch sylwadau pan fyddwn yn edrych ar y cais, ac mae’n bosibl y cânt eu darllen yng nghyfarfod y Pwyllgor.


Sut alla i siarad yng nghyfarfod y Pwyllgor er mwyn gwrthwynebu cais?

Dylai unrhyw gynrychioliadau yng nghyfarfod y Pwyllgor fod yn seiliedig ar ystyriaethau cynllunio cadarn, ac fe ganiateir hyd at dri munud i chi siarad. Mae hefyd hawl gan yr ymgeiswyr neu eu hasiantau i ymateb i gynrychioliadau’r sawl sy’n gwrthwynebu. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Sut alla i ddod o hyd i hanes cynllunio safle?

Fe allwch gael golwg ar benderfyniadau a wnaed yn y gorffennol trwy ddefnyddio ein system Dilyn a Darganfod ar-lein, neu fe allwch gysylltu â Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol lle cedwir copïau o’r holl geisiadau a gyflwynwyd yn y gorffennol.


A allaf gael copi o’r hysbysiad o benderfyniad?

Fe allwch gael golwg ar benderfyniadau a wnaed yn y gorffennol trwy ddefnyddio ein system Dilyn a Darganfod ar-lein, neu fe allwch gysylltu â Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol.


Oes angen i mi wneud Cais Cynllunio i arddangos arwydd/hysbyseb?
Mae rheoliadau yn bodoli o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref sy’n rheoli hysbysebion. Mae’r rhain yn cynnwys arwyddion, byrddau ‘A’, baneri, posteri a phlacardiau. Mae’r rheoliadau yn golygu y gall awdurdodau cynllunio lleol reoli hysbysebion er budd mwyniant a diogelwch y cyhoedd yn eu hardal. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol.


A yw’n bosibl i mi gael cymorth â dyluniad fy nghais?

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau dylunio er mwyn cynorthwyo unigolion mewn materion dylunio ayb. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Beth yw Strwythur Tîm Cynllunio y Parc Cenedlaethol?

Mae’r Prif Swyddog Cynllunio yn gyfrifol am dair Adran o fewn y gwasanaeth cynllunio. Y rhain yw Polisi a Chynlluniau Strategol, Rheolaeth Datblygu a Chydymffurfiaeth a Treftadaeth Diwylliannol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Beth mae’r term Rhestredig yn ei olygu?

Mae’n ofynnol o dan y gyfraith i Gynulliad Cenedlaethol Cymru lunio rhestrau o adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Defnyddir y rhestrau hyn i helpu awdurdodau cynllunio i wneud penderfyniadau gyda buddiannau'r amgylchedd hanesyddol wedi'u dynodi'n glir. Cadw sy’n llunio’r rhestrau, o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Sut ydw i’n darganfod os yw fy nhy yn Rhestredig?

Er mwyn darganfod a yw eiddo yn rhestredig fe allwch un ai ymweld â thudalen Adeiladau Rhestredig PCE, a chwilio ar sail Cymuned, enw ty neu gyfeirnod grid, neu fe allwch gysylltu â swyddfeydd APCE a siarad ag aelod o staff.


Beth yw Ardal Gadwraeth?

Mae Ardaloedd Cadwraeth yn cael eu dynodi fel ffordd o helpu i ddiogelu cymeriad arbennig rhywle, cyfrifoldeb sy’n cael ei rannu gan y bobl sy’n byw yno ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Sut ydw i’n darganfod os ydw i’n byw mewn Ardal Gadwraeth?

Er mwyn darganfod a yw eiddo mewn ardal gadwraeth, fe allwch un ai ymweld â thudalen Ardaloedd Cadwraeth PCE, neu fe allwch gysylltu â swyddfeydd APCE a siarad ag aelod o staff.


Beth yw Rheoliadau Adeiladu?

Mae Rheoliadau Adeiladu’n gymwys i waith adeiladu ac yn gosod safonau ar gyfer dylunio a chodi adeiladau er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch y bobl sydd yn yr adeiladau hynny, neu sydd o’u cwmpas. Maent hefyd yn cynnwys gofynion i sicrhau yr arbedir tanwydd ac ynni, ac y darperir cyfleusterau ar gyfer pobl, gan gynnwys y rhai ag anableddau, i gael mynediad i adeiladau. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Sut ydw i’n adrodd am Dor-rheolaeth Cynllunio a Amheuir?

Gall unrhyw un sy’n dymuno gofyn i’r Awdurdod ymchwilio i waith neu weithgareddau sy’n peri pryder iddynt, wneud hynny mewn llythyr, ffacs neu e-bost neu trwy gwblhau’r ffurflen ar-lein. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Trosi Ysgubor
Aberdyfi
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk