
Er mwyn gweld manylion ein cyrsiau cyhoeddus, cliciwch yma.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol i ymuno â'n cyrsiau cyhoeddus, dim ond diddordeb yn y pwnc a pharodrwydd i ddysgu gan diwtoriaid profiadol a brwdfrydig. Rydym yn ffodus iawn fod gennym nifer o arbenigwyr lleol sydd yn medru cyfrannu i’n rhaglen.

Mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau, ar wahân i’r rhai sydd yn amlwg yn cael eu cynnal dan do, yn cynnwys cerdded ar wahanol lefelau o ymdrech. Gall ein harweinwyr cyrsiau profiadol synhwyro gallu’r aelodau a threfnu’r gweithgaredd yn unol â hynny, gan gymryd mympwyon y tywydd ac amodau eraill i ystyriaeth. Mae rhaglen fanwl y cwrs yn dynodi’r lefel o ffitrwydd sydd ei angen.
Ffïoedd Cyrsiau
Mae’r ffïoedd cyrsiau yn cynnwys llety a’r prydau bwyd, o ginio gyda’r nos y diwrnod cyntaf hyd y pecyn bwyd ar y diwrnod ymadael, a’r hyfforddiant a chludiant ar ymweliadau maes. Gall ambell gwrs olygu tâl ychwanegol am fynediad neu deithio ychwanegol, a dangosir hyn yn glir ar raglen y cwrs dan sylw. (Rhaid talu T.A.W. ar y raddfa safonol ar gyrsiau adloniadol.) Am ragor o wybodaeth ynghylch llety, cliciwch yma.
Mae croeso i ymwelwyr di-breswyl ymuno ag unrhyw gwrs am ran o’r dyddiau neu ddyddiau llawn os oes lle. Y ffi yw £24 y diwrnod a phrydau bwyd yn ychwanegol os dymunir.
Archebion
Gellir archebu lle trwy lenwi’r ffurflen archebu swyddogol a’i hanfon gyda blaendal na ellir ei ddychwelyd o £30 y person am gyrsiau o 4 diwrnod neu fwy a £15 am gyrsiau byrrach (sieciau yn daladwy i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri). Byddwch yn derbyn gair i gydnabod derbyn eich archeb a rhaglen y cwrs. Bydd gweddill tâl y cwrs yn daladwy chwech wythnos cyn ei ddechrau.
Telerau Canslo
Mae angen blaendal o naill ai £15.00 neu £30.00 nas dychwelir i archebu lle. Os bydd angen canslo yna fe godir y ffioedd canlynol:
Argymhellwn eich bod yn trefnu eich yswiriant canslo gwyliau eich hun. Os bydd rhaid i ni ganslo’r cwrs rhoddir gwybod i chi mewn da bryd a dychwelir y ffioedd a’r blaendal yn llawn.
GOSTYNGIADAU
Mae’r gostyngiadau canlynol ar gael, dan yr amodau nodir isod:-
I hawlio unrhyw un ticiwch y blwch priodol ar gefn eich ffurflen archebu.
Cyrsiau Proffesiynol
Trefnir cyrsiau proffesiynol ar gyfer staff cefn gwlad gan y Ganolfan. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Er mwyn gweld manylion ein cyrsiau cyhoeddus, cliciwch yma.

