APCE
Rydych chi yma: Hafan > Canolfan Astudio > Hyfforddiant Proffesiynol
Canolfan Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch

Hyfforddiant Proffesiynol

Er mwyn gweld manylion am ein cyrsiau proffesiynol, cliciwch yma.

Darperir cyfleusterau rhagorol ar gyfer cyrsiau hyfforddiant proffesiynol, gan gynnwys theatr ddarlithio, ystafelloedd darlithio a seminarau, llyfrgell gyfeirio ac adnoddau newydd, ystafelloedd gwaith maes, bar, ystafell gemau, lolfeydd, teledu a chyfarpar clyw-weledol. Fe all tiwtoriaid cyrsiau fod yn arbenigwyr lleol a chenedlaethol yn ogystal ag aelodau staff y Ganolfan ac adrannau eraill y Parc Cenedlaethol.

Hyfforddiant Proffesiynol Plas Tan y Bwlch


Llety

Gellir darparu llety cyffyrddus i hyd at 60 o bobl mewn llofftydd sengl a thwin. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.


Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Mae mwyafrif y cyrsiau hyfforddi yn cael eu cymeradwyo a'u cefnogi'n ariannol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru sef y corff sydd yn rhoi cyngor statudol i'r Llywodraeth ynghylch materion cefn gwlad, morwrol a chadwraeth yng Nghymru. Mae'r Cyngor yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ei amcanion yw:

  • gwarchod a diogelu ansawdd y tirlun a chyfoeth y bywyd gwyllt;
  • annog mwy o fwynhad a dealltwriaeth o gefn gwlad.


Telerau Canslo

Mae angen blaendal o £50.00 na ddychwelir oni bai fod archeb swyddogol yn cael ei chyflwyno gyda'r archeb. Os bydd yn rhaid i chi dynnu'n ôl, bydd y prisiau canlynol yn daladwy:

  • Tynnu'n ôl mwy na 4 wythnos cyn y cwrs - blaendal yn unig.
  • Tynnu'n ôl llai na 4 wythnos cyn y cwrs - 50% o gost llawn y cwrs.


Ysgoloriaeth Hyfforddi i rai sydd yn gweithio yng Nghymru
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn cynnig nifer cyfyngedig o ysgoloriaethau i unigolion sy'n gweithio yng Nghymru. Dylai'r rhai sydd am wneud cais gysylltu gyda Beth Cluer, Gweinyddydd Hyfforddiant Proffesiynol ym Mhlas Tan y Bwlch.


Teithiwch i Blas Tan y Bwlch ar drafnidiaeth gyhoeddus a hawliwch docyn anrheg o £5
Rydym yn awyddus iawn i hyrwyddo defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn ceisio lleihau llygredd, ac i fod yn rhan o'r ymdrech i geisio ysgafnhau pwysau traffig ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Os ydych angen rhagor o wybodaeth ynglŷn â theithio i'r Plas ar drafnidiaeth gyhoeddus cysylltwch â ni.


Er mwyn gweld manylion am ein cyrsiau proffesiynol, cliciwch yma.

Lawriwytho ffurflen Plas Tan y Bwlch Hyfforddiant Proffesiynol
Hyfforddiant Proffesiynol
Logo CSE
Hafan Allrwyd Staff Cysylltu
Parciau Cenedlaethol y DU
Brig y dudalen hon

APCE

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk