
Mae yna derasau ffurfiol, gardd ddwr a phwll yn rhannau uchaf y gerddi yma. Hefyd ceir yma lawntiau ar lechwedd, llwyni addurnol a choed conwydd, rhai ohonynt wedi'u plannu yn ôl yn Oes Fictoria. Yn y gwanwyn a dechrau'r haf, mae rhai o'r coed Rhododendron a'r Asealas yn wledd o liwiau llachar.
Mae'r gerddi yn cael eu hadfer fel rhan o gynllun hirdymor. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gwerthfawrogi eich cyfraniad yn fawr. O'r maes parcio ym Mhlas Tan y Bwlch gallwch fynd ar hyd llwybrau sy'n arwain blith-draphlith i'r gerddi coediog, cysgodol lle mae coed brodorol fel derw, ffawydd, pinwydd yr Alban ac yw Iwerddon yn gymysg â choed a llwyni a fewnforiwyd o wledydd pell.
Mae'r llecynnau tawel, lled-wyllt a hirsefydledig hyn yn gynefin delfrydol i nifer fawr o adar, pryfaid, anifeiliaid bach a blodau gwyllt. Mae rhai rhywogaethau wedi'u gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Yr elfen allweddol yn y llecynnau hyn yw anffurfioldeb.
Trwy warchod ac adfer y gerddi hyn rydym yn gwarchod y cynefinoedd byd natur ac yn uno'r gerddi gwyllt gyda'r gerddi mwy ffurfiol. Dyma'r rheswm y cedwir y drain a'r boncyffion ar lawr y coedlannau ynghyd â'r dringedyddion ar y coed.
Un o ddyletswyddau'r garddwyr yw cadw llygad yn rheolaidd ar y bywyd gwyllt a chyhoeddi canlyniadau'r arolygon wythnosol bob blwyddyn, gyda chydweithrediad darlithwyr y Plas.

Am wybodaeth am erddi eraill yng ngogledd Cymru ewch i'r wefan www.gardensnorthwales.co.uk.



