APCE
Rydych chi yma: Hafan > Canolfan Astudio > Llety

Llety

Gellir darparu llety cyffyrddus i hyd at 60 o bobl mewn llofftydd sengl a thwin. Mae'r ystafelloedd yn cynnwys dodrefn cyffyrddus, carped a gwres canolog, gyda basnau ymolchi a phwyntiau eillio. Mae gan 25 o'r ystafelloedd gyfleusterau en suite ac mae gan y gweddill doiledau, cawodydd ac ystafelloedd ymolchi gerllaw.

Mae tri o’r ystafelloedd gwely en-suite wedi eu lleoli ar y llawr gwaelod ac mae’n hawdd eu cyrraedd; mae ystafell ymolchi wlyb wedi ei gosod yn un o’r rhain ac wedi ei ddylunio felly ar gyfer gwesteion mewn cadair olwyn.

Mae lifft ar gael yn y prif dŷ sy’n galluogi’r gwesteion gyrraedd yr ystafelloedd gwely a’r lolfa yn haws.

Mae cyfleusterau gwneud te a choffi ar gael i westeion trwy'r amser. Mae ansawdd y bwyd wedi bod yn destun canmoliaeth cyffredinol ac ymhyfrydir mewn cynnal y safon.

Yn ogystal â hyn, darperir y cyfleusterau canlynol yma yn y Plas:

  • bar
  • ystafell gemau
  • lolfeydd
  • teledu
  • cyfarpar clyw-weledol

Gwesteion Gwely a Brecwast

Pan fydd lle ar gael, gellir gwneud archebion unigol am ginio, gwely a brecwast ym Mhlas Tan y Bwlch heb gymryd rhan yn ein cyrsiau.

Llety
Logo CSE
Hafan Allrwyd Staff Cysylltu
Parciau Cenedlaethol y DU
Brig y dudalen hon

APCE

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk