APCE
Rydych chi yma: Hafan > Canolfan Astudio
Canolfan Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch

Plas Tan y Bwlch

Plas Tan y Bwlch yw Canolfan Astudiaethau Amgylcheddol Parc Cenedlaethol Eryri. Caiff ei weinyddu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r Ganolfan yn ceisio darparu cyrsiau sydd o ddiddordeb i bawb sydd yn caru cefn gwlad ac a hoffai wybod mwy am yr ardal hudol hon o Gymru.

Plas Tan y Bwlch

Saif Plas Tan y Bwlch ar lecyn bendigedig yn edrych dros ddyffryn Afon Dwyryd yng nghanol y Parc Cenedlaethol. Nid oes unrhyw ran o’r Parc fwy na rhyw waith awr o yrru oddi yma ac mae rhai o’r golygfeydd godidocaf ym Mhrydain o fewn cyrraedd hawdd. O uchelderau’r Wyddfa a Chadair Idris a rhostiroedd noeth y Migneint mae’r bryniau’n ymestyn drwy’r dyffrynnoedd diarffordd, y llethrau coediog a’r llynnoedd llonydd i lawr i’r môr. Yn eu plith mae nifer o leoedd sydd o ddiddordeb llysieuol, daearegol a hanesyddol, a rhain yw deunydd crai y cyrsiau a drefnir ar eich cyfer yn y Ganolfan Astudio.

Plas Tan Y Bwlch
Cyrsiau Cyhoeddus
Cyrsiau Cyhoeddus
Hyfforddiant Proffesiynol
Hyfforddiant
Proffesiynol
Theatr Ddarlithio
Theatr Ddarlithio
Arlwyaeth
Arlwyaeth
Sut i ddod o hyd i ni
Sut i ddod o hyd i ni
Logo CSE
Hafan Allrwyd Staff Cysylltu
Parciau Cenedlaethol y DU
Brig y dudalen hon

APCE

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk