APCE
Rydych chi yma: Hafan > Naws am Le

Naws am Le

Mynyddoedd, llynnoedd, coetiroedd, dyffrynnoedd.....dyna'r hyn y mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ei olygu i'r rhan fwyaf o bobl, ond mae'r ardal hon yng ngogledd orllewin Cymru yn gallu cynnig llawer mwy.

Mae hanes a diwylliant o'ch cwmpas ym mhob man ac mae'r iaith Gymraeg yn famiaith i 65% o'r boblogaeth. Rydych yn siwr o weld a chlywed yr iaith Gymraeg yn ystod eich ymweliad.

Maen y Bardd, Rowen

Mae'r tirlun yn adrodd hanes yr ardal o siambrau claddu Oes y Cerrig, ceiri Rhufeinig, eglwysi, cestyll, chwareli llechi a gweithfeydd diwydiannol eraill.

Mae'r ardal yn adnabyddus yn fyd-eang am ei ddaeareg. Yn y 19eg ganrif fe gynhaliwyd yr ymchwiliadau i greigiau hynaf y byd a hynny yn Eryri.

Am ddysgu mwy? Cliciwch ar y cysylltiadau ar ochr chwith rhan uchaf y dudalen.

Ydych chi'n fyfyriwr neu'n athro/athrawes?
Cliciwch ar Gwasanaethau Addysg er mwyn cael gwybodaeth eang am yr ardal.


Bwrlwm Eryri

Menter a sefydlwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw Bwrlwm Eryri, ac fe’i lansiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau yn Awst 2005. Nod y fenter yw gwarchod a hyrwyddo’r dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sydd gennym o fewn ffiniau’r Parc ac mewn ardaloedd cyfagos.  Bwriedir gwneud hynny drwy gydweithio â chymunedau a chymdeithasau yn ogystal â’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat, er mwyn casglu, cofnodi, gwarchod a hyrwyddo ein treftadaeth i’r dyfodol.

Mae treftadaeth yn aml iawn yn rhywbeth nad ydym yn ymwybodol ohono, yn rhywbeth sy’n aros i ni ei ddarganfod a chael ein gwefreiddio gan ymdeimlad o berthyn i hen hen ddiwylliant neu ffordd o fyw.  Nid rhywbeth y gellir ei ddysgu wrth eistedd mewn dosbarth neu ddarlith yw treftadaeth ddiwylliannol, ond rhywbeth i’w fyw a’i deimlo, a gobeithio, drwy weithgareddau Bwrlwm Eryri,  y gellir annog pobl i fyw ac i deimlo ac i ddarganfod drostynt eu hunain beth o’n hetifeddiaeth.


Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Naomi Jones
Swyddog Bwrlwm Eryri
Ffôn: 01766 772 517
E-bost: naomi.jones@eryri-npa.gov.uk

Cneifio, Cwm Pennant
Pont Scethin
Abaty Cymmer, Dolgellau
Hafan Allrwyd Staff Cysylltu
Parciau Cenedlaethol y DU
Brig y dudalen hon

APCE

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk