APCE
Rydych chi yma: Hafan > Ymweld > Lleoedd i Aros

Lleoedd i Aros

Mae gan Eryri amryw byd o fathau o leoedd aros ar gael i ymwelwyr. Yn yr haf ac ar adegau prysur eraill o'r flwyddyn, mae'n well i chi archebu ymlaen llaw.

Nid ydym yn darparu gwasanaeth archebu ar gyfer lleoedd i aros, ond gallwch fynd i’r wefan www.ymweldageryri.info, a weinyddir gan Cyngor Gwynedd, ac sy’n darparu gwybodaeth helaeth ar ran Partneriaeth Ardal Farchnata Eryri Mynyddoedd a Môr.

Eryri Mynyddoedd a Môr

Isod ceir hysbysebion gan rai o'r llefydd aros sydd wedi penderfynu gosod hysbyseb yn y cylchgrawn Eryri 2010-11.

Royal Oak Hotel
Bwyty Llugwy a Grill Bar
Hen westy o ddyddiau'r goets fawr Fictorianaidd sydd wedi ennill llu o wobrau. Saif uwchben yr afon Llugwy yng nghanol pentref hudolus Betws y Coed. Mae cyfleusterau modern i bob un o'r 27 ystafell wely tair seren gan gynnwys gwelyau moethus 4 postyn, ystafelloedd teulu, band llydan gyda mynediad Wifi, rhai sianeli Sky ac aelodaeth o ganolfan hamdden Dukes' bum munud o daith cerdded o'r gwesty.
O ran bwyd, gallwch ddewis o'r Bwyty Llugwy adnabyddus sy'n cynnig y cynnyrch lleol gorau neu naws cyfoes y Grill Bar. Y Royal Oak ydi'r lleoliad gorau ar gyfer cymdeithasu soffistigedig neu nosweithiau hamddenol. Y lle gorau i aros er mwyn dod i adnabod holl gyfoeth Eryri neu fwynhau anturiaethau amrywiol. Mae'r pentref hefyd yn cynnig siopau unigryw o orielau a siopau dillad i lu o siopau dillad ac offer awyr agored.
Mae'r cyfan yma...
Archebu lle:
Ffôn: 01690 710219
Ffacs: 01690 710603
Gwefan: www.royaloakhotel.net
e-bost: royaloakmail@btopenworld.com

Palé Hall ****
Stad Palé, Llandderfel, Bala, Gwynedd, LL23 7PS
Un o'r adeiladau gwychaf yng Nghymru. Mae'r tu mewn yn syfrdanol gyda nodweddion rhagorol gan gynnwys ystafell wisgo (boudoir) gyda'r to wedi'i beintio â llaw, cyntedd godidog a grisiau ag orielau. Un o'r gwesteion mwyaf nodedig oedd y Frenhines Victoria, ac mae'r bath a'r gwely a ddefnyddiodd hi yn parhau i fod mewn defnydd. Gweinir bwyd o'r radd flaenaf, a gall gwesteion flasu bywyd mewn modd mawreddog. Priodasau sifil trwyddedig. Delfrydol ar gyfer cynadleddau a phartïon tŷ.
Ffôn: 01678 830 285
Ffacs: 01678 530 220
e-bost: enquiries@palehall.co.uk
Gwefan:
www.palehall.co.uk

Tan-y-Fron Guest House ****
Ffordd Arran, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2AA
Ystafelloedd en-suite. Parcio preifat. Cyfleusterau golchi. Lle i wersylla ar gael hefyd. 1/2 milltir o Ddolgellau.
FFôn: 01341 422 638
e-bost: info@tan-y-fron.co.uk
Gwefan: www.tanyfron.co.uk

Plas Dinas Country House
Bontnewydd, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7YF
Egwyliau moethus - priodasau - cyfarfodydd
Ffôn: 01286 830 214
Gwefan: www.plasdinas.co.uk

Castell Bryn Bras
Llanrug, ger Caernarfon
Rhandai 4 seren i 2-4 o fewn Castell rhamantaidd ynghanol harddwch tawel. Bwytai lleol. Egwyliau byr neu wythnos ar gael drwy'r flwyddyn. Adeilad Rhestredig Gradd II*. Dim plant.
Ffôn: 01286 870 210
Gwefan: www.brynbrascastle.co.uk

Bala Backpackers
Llety hostel. Cegin Hunan-Arlwyo newydd i'r Gwesteion. Bwyta i mewn neu allan, 25 o leoedd o fewn 100m. 5 munud o gerdded i'r Llyn, Afon, Copaon.
Ffôn: 01678 521 700
e-bost: info@Bala-Backpackers.co.uk

Pale Hall, Bala
Tan-y-Fron, Dolgellau
Bryn Bras, Caernarfon
Hafan Allrwyd Staff Cysylltu
Parciau Cenedlaethol y DU
Brig y dudalen hon

APCE

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk