
Gorwedda Llyn Tegid i’r de orllewin o dref y Bala, rhwng mynyddoedd y Berwyn, yr Aran a’r Arenig. Yn 4 milltir o hyd a hyd at ¾ milltir o led, hwn yw llyn naturiol mwyaf Cymru. Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw perchennog y llyn sy’n ei reoli fel adnodd hamdden, ond hefyd yn gwarchod y llyn a’i fioamrywiaeth arbennig.
Cliciwch ar y dolenni ar y chwith am fwy o wybodaeth am Lyn Tegid.
Isod gweler llun byw o Lyn Tegid sydd i'w weld o adeilad y Warden, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sydd ar lan y llyn. Mae'r llun yn cael ei ddiweddaru bob 5 munud.
Er mwyn gweld y llun diweddaraf, cliciwch y botwm adnewyddu.
Cliciwch ar y llun er mwyn ei ehangu
Pan na fydd hi'n ddigon clir i weld y mynydd, edrychwch ar y llun isod i weld yr olygfa a gymerwyd ar ddiwrnod clir.


